Ers dechrau’r flwyddyn academaidd, mae Prifysgol Caerdydd wedi croesawu Llywydd ac is-ganghellor newydd, yr Athro Wendy Larner.
Cyn ymuno â ni yma yng Nghaerdydd, roedd yr Athro Wendy Larner yn gweithio fel Profost yn Te Herenga Waka sef Prifysgol Victoria Wellington yn Seland Newydd.
Yn ôl gwefan Prifysgol Caerdydd, mae’r Llywydd a’r is-ganghellor yn cael ei disgrifio fel ‘gwyddonydd cymdeithasol uchel ei pharch yn rhyngwladol’ ac ei bod hi’n ‘frwd dros gefnogi a hyrwyddo cydweithwyr ar ddechrau eu gyrfau’.
Nôl ym mis Mai eleni, penodwyd yr Athro Elwen Evans KC fel y fenyw cyntaf i fod yn is-ganghellor ym Mhrifysgol Cymru a Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Fel rhan o’i swydd, mae gwefan Prifysgol Caerdydd yn nodi bod Athro Larner yn gyfrifol am arweinyddiaeth a rheolaeth gyffredinol y Brifysgol, cynnal safonau rhagorol o atebolrwydd ar draws y Brifysgol a safonau rhagorol o lywodraethu corfforaethol, yn ogystal â atebolrwydd i’r Senedd am ddefnydd o gronfeydd y Brifysgol.
Yn ychwanegol i hyn, mae hi hefyd yn gyfrifol am egni ariannol ac academaidd cyff redinol y Brifysgol ac mae hi eisoes wedi datgan bod trefn ariannu prifysgolion ‘wedi torri’.
Dyma’r Is-Ganghellor benywaidd cyntaf yma ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn ôl yr Athro, roedd hi’n ‘hen bryd’ cael menyw wrth y llyw.
Mae hi eisoes yn galw am newid o ran y ffordd y mae sefydliad ariannu prifysgolion yn gweithio.
Yn ôl BBC Cymru Fyw, mae’r Athro Larner wedi dweud y bydd ‘sgwrs fawr’ gyda staff a myfyrwyr am ddyfodol Prifysgol Caerdydd er mwyn ‘bod yn wahanol ar gyfer y dyfodol’.
Golygai hyn y bydd siawns o dorri’n ôl ar weithredoedd y brifysgol, yn ôl yr Athro, a oedd yn cydnabod bod y pandemig a’r cynnydd costau byw yn golygu cyfnodau ‘anodd’ i fyfyrwyr.
Ar hyn o’r bryd, mae myfyrwyr cartref, sydd yn astudio yng Nghymru yn gorfod talu £9,000 y flwyddyn, ble mae’n ddisgwyliedig i fyfyrwyr sydd yn astudio yn Lloegr dalu £9,250.
Fel ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “ymgysylltu’n rheolaidd ac yn adeiladol â’r sector ynghylch model cynaliadwy ar gyfer Addysg Uwch.”
Ydych chi’n cytuno â Llywydd ac is-ganghellor newydd y brifysgol bod angen newid sefydliad ariannu prifysgolion yma yng Nghymru?

