Fel rhan o her ‘Tashwedd’, mae gan dimau chwaraeon Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd, neu’r ‘GymGym’, uchelgais o godi £500 tuag at yr elusen ‘Young Lives vs Cancer’.
Yr her y maent wedi ei gosod i’w hunain eleni yw rhedeg cyfanswm o 1,389km rhwng aelodau’r timau pêlrwyd, pêl-droed a rygbi. I roi hwn mewn cyd-destun, dyma’r pellter o Gaerdydd i Lundain, yna i Gaeredin, dros y môr i Ddulyn ac yn ôl.
Beth yw ‘Tashwedd’?
Mae Tashwedd, neu ‘Movember’ yn Saesneg, yn ymgyrch flynyddol sy’n codi ymwybyddiaeth am y prif broblemau iechyd ymysg dynion, sef cancr y prostad, cancr y ceilliau ac iechyd meddwl. Mae pobl ledled y byd yn tyfu mwstas trwy gydol mis Tachwedd a’r mwstas yn symbol i gynrychioli dynion iachach a byd iachach. Mae eraill yn cymryd rhan yn yr ymgyrch drwy redeg neu gerdded 60km yn ystod y mis. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth, mae’r rheini sy’n cymryd rhan yn mynd ati i geisio codi arian tuag at yr achosion pwysig hyn.
Wrth gyfeirio at bwysigrwydd yr ymgyrch, dywedodd Aron Jones, Llywydd y GymGym, “Dwi’n meddwl bod o’n hynod bwysig oherwydd yn anffodus, dwi’n credu bod dal stigma efo iechyd meddwl dynion a tydi o ddim yn bwnc hawdd iawn i rai trafod. Mae’r ffaith bod Y GymGym yn cymryd rhan yn Tashwedd yn dangos ein bod yn gymuned saff i godi unrhyw bryderon”.
Young Lives vs Cancer
Yr Elusen mae’r GymGym wedi dewis ei chefnogi eleni yn ei hymgyrch yw ‘Young Lives vs Cancer’, sydd yn cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0-25 blwydd oed sy’n dioddef o gancr, a’u teuluoedd. Mae’r GymGym yn teimlo’n gryf dros waith yr elusen oherwydd, yng ngeiriau Aron, “Mae 1 o bob 2 ohonom yn debygol o ddatblygu rhyw fath o symptom cancr yn ystod ein bywydau, gyda bron i 4,000 o bobl ifanc 25 ac iau yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn”.
Ychwanegodd, “Yn anffodus mae ffrind i’r GymGym wedi derbyn diagnosis yn ddiweddar. Fel y GymGym, rydym ni jyst eisiau cyfrannu i gwffio afiechyd mor ofnadwy”.
I atgyfnerthu hyn, dywedodd timau chwaraeon y GymGym mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, “Hoffai pawb o’r GymGym anfon nerth i unrhyw un sydd yn brwydro yn erbyn cancr ar hyn o bryd gan ddymuno gwellhad buan iawn iddynt”.
Mae’r GymGym yn gweithio’n ddyfal i gyflawni ei her uchelgeisiol, ac mae’r Gymdeithas eisoes wedi codi cannoedd o bunnoedd tuag at yr achos.
Yn ôl Aron, “Da ni ychydig ar ei hôl hi efo’r her o 1,389km gyda bron i 15% wedi ei gwblhau yn barod ond yn fuan mi fyddwn yn mentro i gopa Pen y Fan i geisio cynyddu ar y canran yna. Ar yr ochr ariannol da ni wedi bod yn lwcus iawn ac wedi derbyn llwyth o gyfraniadau hael iawn. Gyda tharged o £500 a’r ffaith ein bod wedi codi bron i £400 yn barod dwi’n hyderus y nawn ni chwalu’r targed yna”.
Os hoffech chi neu rywun arall gyfrannu at yr ymgyrch, gallwch wneud hynny ar wefan GoFundMe drwy chwilio am ‘Ymgyrch ‘Tashwedd’ y GymGym’, neu drwy ddilyn y ddolen isod:
https://www.gofundme.com/f/byddai-unrhyw-gyfraniad-yn-cael-ei-werthfawrogin-fawr?qid=dfd31044aeb08b0cd6a7b0d3f22126c7
