Gyda mis Mai yn fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl, dyma gyfle i atgoffa myfyrwyr y brifysgol am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael iddyn nhw. Â hithau’n gyfnod arholiadau hefyd, mae’n bwysicach nag erioed bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael os ydyn nhw’n teimlo o dan straen neu’n is na’r arfer. Yn y brifysgol ei hun, gellir cael mynediad at sawl math o gymorth iechyd meddwl.
Yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, Tŷ Aberteifi, a thrwy Cyswllt Myfyrwyr, mae modd derbyn cyngor priodol gan dîm arbenigol. Mae yna lu o wasanaethau y gall y tîm eu cynnig gan gynnwys cwnsela a lles (boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein), cymorth gan y Tîm Ymyrraeth Cefnogi Myfyrwyr, y Tîm Bywyd Preswyl, ac os ydych chi’n fyfyriwr gofal iechyd, mae’r Tîm Iechyd galwedigaethol yn gallu darparu cymorth ynglŷn â’ch cwrs. Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gwasanaethau hyn, ymwelwch â’r dudalen ‘Iechyd a lles’ ar wefan y brifysgol, neu cysylltwch gyda’r tîm dros y ffôn ar 02922518888.
Meddwl.org Y tu hwnt i’r Brifysgol, mae gwefan meddwl.org yn ddefnyddiol i gael gwybodaeth ac adnoddau iechyd meddwl. Sefydlwyd y wefan gan grŵp o wirfoddolwyr yn 2016 a’i bwriad yw cynyddu’r wybodaeth a chymorth iechyd meddwl ar gael i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn cronni llawer o wybodaeth ynghylch cyflyrau iechyd meddwl, eu symptomau a chymorth sydd ar gael mewn un lle, yn ogystal â darparu platfform i unigolion rhannu eu profiadau a darllen am brofiadau eraill mewn blogiau yn eu hiaith gyntaf.
Mae’r elusen hefyd yn cynnal digwyddiadau amrywiol megis teithiau cerdded a sgyrsiau mewn gwahanol ddigwyddiadau. Os am ragor o wybodaeth, ymwelwch â gwefan meddwl.org. Myf.Cymru Adnodd wedi’i lunio yn benodol i fyfyrwyr addysg uwch Cymraeg eu hiaith yw myf.cymru, yn sgìl y diffyg adnoddau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr.
Rhan bwysig o myf.cymru yw mewnbwn myfyrwyr, ac o ganlyniad maent yn cydweithio gyda phrifysgolion er mwyn datblygu eu darpariaethau. Mae eu gwefan, www.myf.cymru, â gwybodaeth am gyflyrrau iechyd meddwl a chyngor ynglŷn ag ymdopi â hwy, yn ogystal ag adran Hwb Myf ble gellir dysgu am brofiadau rhai myfyrwyr gyda’u hiechyd meddwl. Maent hefyd wedi cyfieithu’r ap Moving On In My Recovery – Symud Ymlaen sydd â chymorth adferiad.
Adnodd arall sydd ganddynt yw eu podlediad Sgwrs? sy’n trafod pob dim iechyd meddwl, yn ogystal â’u cyfryngau cymdeithasol sy’n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol. Gallwch chi hefyd gofrestru i dderbyn eu e-newyddlen ar eu gwefan. Mae’r adnoddau hyn yn ffynonellau defnyddiol felly i ddysgu am iechyd meddwl a’r cymorth sydd ar gael.
Cofiwch fanteisio arnynt os oes angen, ac edrychwch ar ôl eich hunain.
