Os nad ydych chi wedi sicrhau tocynnau i gemau’r chwe gwlad eleni, peidiwch â phoeni – mae digon o lefydd i fwynhau’r bencampwriaeth tu hwnt i’r stadiwm Principality. Wedi gêm agos iawn yn erbyn yr Alban ar y 3ydd o Chwefror, mae Cymru yn wynebu Lloegr ar yr 10fed, Iwerddon ar y 24ain, Ffrainc ar y 10fed o Fawrth ac yna’r Eidal ar yr 16eg o Fawrth. Heb os, mae strydoedd Caerdydd yn fwrlwm yn ystod y bencampwriaeth ac os ydych yn edrych am rhywle i ymuno â’r cyffro yn y Ddinas, dyma rhai o awgrymiadau; Walkabout Mae’r bar / clwb Walkabout ar ben stryd St Mary yn adnabyddus iawn yn ystod gemau pencampwriaeth y chwe gwlad.

An aerial view of the Principality Stadium.
Photograph: John Greenaway (via Flickr)

Ar adegau, mae’r ciw tu allan yn gallu bod yn hirfaith a prisiau ‘megapints’ yn medru rhoi tolc i’r cyfrif banc, ond mae’r ‘buzz’ sydd i’w gael tu mewn yn gwneud y profiad yn werth chweil. Mae Walkabout yn dangos gemau chwaraeon byw o’r Premier League, i’r Chwe Gwlad ac mae’n rhywle gwych i fyfyrwyr fwynhau diwrnodau rygbi. Mae modd archebu tocynnau oflaen llaw yn ogystal.

Peppermint Os yw’r ciw yn rhy hir i Walkabout, yna ewch dros y ffordd i Peppermint sydd hefyd yn dangos holl gemau’r pencampwriaeth. Cewch gyfle i fwynhau’r rygbi gyda coctêl neu pitsa yn eich llaw. Coyote Ugly + Brewhouse Hefyd ar stryd St Mary, mae Cayote Ugly a Brewhouse hefyd yn leoliadau sy’n dangos y holl gemau’r pencampwriaeth.

Woodville + Mackintosh Os nad ydych am fentro i fewn i ganol y ddinas i wylio’r gemau, mae sawl lleoliad yn dangos y pencampwriaeth yn Cathays. Mae’r tafarndai Gassy’s The Woodville a Mackintosh hefyd yn dangos holl gemau’r chwe gwlad.

Cardiff’s Pierhead Building illuminated at night.
Photograph: Cartridge Save A Day (via Flickr)