Fis diwethaf cafodd cynlluniau eu cymeradwyo i ehangu Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Agorodd y clwb yn wreiddiol yn 1983 fel clwb cymdeithasol i siaradwyr Cymraeg y brifddinas. Ers hynny, y mae wedi dod yn un o leoliadau cerddoriaeth fyw mwyaf eiconig Caerdydd, yn cynnal gigs gan artistiaid adnabyddus a newydd, ac mae’n fan sy’n boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr Cymraeg y ddinas.
Yn ôl eu gwefan, “Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran diwylliant Cymru ers dros ddeugain mlynedd, ac rydyn ni’n falch o fod yn lleoliad llawr gwlad a hyrwyddwr cerddoriaeth mwyaf blaenllaw Cymru. Mae Clwb Ifor yn cyflwyno’r gorau o blith cerddoriaeth Cymru a thu hwnt i’w gynulleidfaoedd, gan roi cyfleoedd i filoedd o artistiaid newydd ddatblygu eu crefft.” Ers 2019 mae’r clwb wedi cyflwyno cynlluniau i ehangu eu lleoliad gyda’r bwriad o gynyddu capasiti. Ac o’r diwedd, mae’r amser wedi dod i wireddu’r cynlluniau hynny.
Tan hyn, tri llawr sydd wedi bod yn y clwb, ond mae’r cynlluniau newydd yn golygu y bydd hynny’n cynyddu i bum llawr, gyda theras ar y to, llawr tanddaear, yn ogystal â chyfleusterau gwell. Y bwriad yw dymchwel yr adeilad drws nesaf i’r clwb er mwyn creu digon o le i allu cael 500 person ar y llawr gwaelod a 250 ar yr ail lawr. Yn ôl Cyngor Caerdydd y nod ydy "helpu strategaeth cerddoriaeth fyw, sefyllfa cerddoriaeth ar lawr gwlad, ac economi nos y brifddinas".
Mae Alis Glyn yn artist cerddoriaeth sydd hefyd yn fyfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers iddi symud i Gaerdydd ym mis Medi’r llynedd, dywed Alis iddi gael “profiad anhygoel” fel artist yn y brifddinas. Ychwanegodd, “Dwi wedi sylwi ers dechra' yn y brifysgol cymaint o gyfleoedd sydd ar gael yma i artistiaid Cymraeg, cymaint o gigs mewn amryw o leoliadau gwahanol a chyfle i glywed gan artistiaid ar baneli ynglŷn â’u profiadau nhw a lle cafon nhw y cymorth yng Nghaerdydd.” Wrth ymateb i’r cynlluniau i ehangu’r clwb, dywedodd, “Pan glywes i am y cynllunia’ ynglŷn â ehangu Clwb Ifor Bach, geshi dipyn o sioc gan 'mod i wedi arfer â pawb yn glos at ei gilydd!

Geshi dipyn o sioc gan ‘mod i wedi arfer â pawb yn glos at ei gilydd!
Ond i fod yn hollol onest dwi’n rili cyffrous i weld be fydd hyn yn ei olygu i’r gigs sydd yn cael eu cynnal yn Clwb a hefyd y gynulleidfa newydd mae’r lle am ei denu.” Daw’r newyddion yn dilyn cyfnod cythryblus i leoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd, gyda lleoliadau fel The Moon, Gwdihŵ, Buffalo a Ten Feet Tall wedi gorfod cau eu drysau am y tro olaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl Alis, “ma' hi’n biti mawr bod llefydd yn gorfod cau gan fod cymaint o lefydd yng Nghaerdydd yn cynnal gigs erbyn rŵan.” “Dwi’n credu bod diogelu ac adnewyddu lleoliadau fel hyn, yma yng Nghaerdydd yn angenrheidiol i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg sydd yn hynod o fywiog a chyffrous ar hyn o bryd. Ma’r cyfle i gael perfformio mewn lleoliadau gwych fel hyn wir yn hybu artistiaid ifanc i barhau i berfformio a chyfansoddi yn y Gymraeg”.

