Mae cynllun ‘Gorwelion’, neu Horizons wedi hen-wneud ei farc ar y Sîn Roc Gymraeg, ers dros 10 mlynedd erbyn hyn gan gefnogi dros 450 o artistiaid gwreiddiol o Gymru. Cynllun gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ariannu newydd-ddyfodiaid ar y sîn yw’r cynllun, er mwyn ‘datblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru’. Eleni, mae’r cynllun wedi dyfarnu 32 o artistiaid a labeli recordio annibynnol o Gymru, gan rannu cronfa gwerth £60,000 rhwng yr artistiaid i gyd.

Mae’r 32 artist yn hannu o bob cwr o Gymru ac yn ymgorffori pob math o genres cerddorol o indie i werin, i electronig i hip hop. Hanfod y cynllun hwn yw ‘buddsoddi mewn doniau cerddorol gwreiddiol’ drwy eu hariannu er mwyn ffynnu, datblygu a thyfu o fewn y Sîn Roc yma yng Nghymru. Mae’r artistiaid sydd wedi manteisio ar gronfa Gorwelion y gorffennol yn cynnwys Buddug, LEMFRECK ac Adwaith.

Dyma ddangos felly beth yw ffrwyth llafur y cynllun, gydag enwau mor nodedig yn rhan o alumni Gorwelion. Mae’r artistiaid sydd wedi eu dyfarnu’n llwyddiannus yn enw’r cynllun eleni yn cynnwys Tai Haf Heb Drigolyn, Betsan, Dafydd Owain a Martha Elen i enwi ond ychydig. Dyma ond llond dwrn o’r 32 artist Cymraeg fydd yn cael eu grymuso i ffynnu gyda chefnogaeth ariannol Gorwelion.

Bydd yr artistiaid amrywiol yn rhoi arian y gronfa ar waith mewn ffyrdd amrywiol hefyd o gost cyfarpar, i recordio ac i gyfrannu at gostiau teithio. Dywedodd Bethan Elfyn, Uwch Gynhyrchydd Gorwelion yn BBC Cymru ei bod hi’n fraint gallu cefnogi talent newydd sy’n ‘torri drwodd o bob cwr o Gymru’ drwy gynnig cymorth ariannol i ‘leisiau newydd ac ifan ffres’. Dywedodd MORN, band o Sir Fynwy, sydd wedi derbyn y cymorth ariannol eleni, nad yw hi’n hawdd ar bobl ifanc sydd eisiau gwneud eu marc ar y Sîn Roc i gael eu gweld na’u clywed.

Yn ôl y band ôl-pync, mae ‘na rwystrau lu i’r rhai hynny sydd eisiau ‘dilyn eu breuddwydion’ ym myd y celfyddydau yma yng Nghymru, ac felly mae’r cynllun hwn yn garreg-lamu berffaith iddynt. Mae’n deg dweud felly, ei bod hi’n don cyffrous yn hanes llanw’r Sîn Roc Gymraeg, gyda’r sîn yn fwy amrywiol, iachus a byrlymus nag y buodd erioed. Mae gorwelion artistiaid, bandiau a labeli Cymru felly, yn ddiogel.