Ar ddydd Sul, y 5ed o Hydref, cynhaliwyd Hanner Marathon Caerdydd. Dyma un o brif uchafbwyntiau calendr rhedeg Prydain gyda miloedd yn cymryd rhan yn flynyddol. Roedd bwrlwm i’w deimlo yn y brifddinas, wrth i dros 27,500 o redwyr lenwi’r strydoedd, gan dorri record unwaith eto.

Ymhlith y miloedd, roedd Beca Roberts, myfyrwraig trydedd flwyddyn. Mae Beca wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd, ond dyma’r tro cyntaf iddi wynebu hanner marathon. “Roeddwn i’n chwilio am her,” eglurodd hi. “Nes i rili fwynhau o - y gefnogaeth ar hyd y ffordd oedd un o’r uchafbwyntiau.” Yn wahanol, roedd Eben Williams, myfyriwr ail flwyddyn, eisoes wedi profi Hanner Marathon Gaer ac felly’n gwybod beth oedd o’i flaen. “Nes i enjoio’r 200 metr olaf. Ti’n gwybod bod ti bron yna, mae’r teimlad yn grêt.” Roedd Begw Williams, myfyrwraig trydedd flwyddyn, hefyd yn gyfarwydd â’r ras. “Dyma’r ail dro i mi gymryd rhan.

Mae’r awyrgylch yn gwneud y ras i fi. Mae ‘na buzz amlwg ar y strydoedd, dyna’r prif reswm o’n i isio gneud o eto.” Rhedeg i Eraill Nid hunan-her yn unig oedd y ras i Erin Davies, myfyrwraig trydedd flwyddyn. “Rhedais i dros Ymchwil Canser Cymru, er cof am dad-cu,” meddai. “Fe gollais i dad-cu ‘chydig cyn y Nadolig llynedd, felly roedd hi’n ras emosiynol iawn.” Roedd Swyn Dafydd myfyrwraig ail flwyddyn yn rhedeg i elusen Mind. “Nes i redeg ‘leni i godi arian i elusen Mind,” meddai. Dyma elusen sy’n agos at ei chalon, “yn gefnogol i fi a fy nheulu pan oeddwn i’n sâl ag anhwylder bwyta.” Disgrifia hi’r profiad o redeg fel un “amesing a phoenus,” “Roedd gweld y crowd a phawb yn cefnogi ei gilydd yn rhywbeth bythgofiadwy!” Ail-ddychmygu’r Ddinas Fel arfer, mae Parc y Rhath a’r Bae yn llefydd i ymlacio dros y penwythnos.

Ond ar ddiwrnod y ras, fe drawsnewidiwyd y ddinas yn drac, wedi’i amgylchynu gan filoedd o gefnogwyr. “Dw i wedi rhedeg drwy’r Rhath gannoedd o weithiau o’r blaen,” meddai Beca. “Ond mae rhedeg drwyddo gyda’r holl gefnogaeth yn brofiad hollol wahanol.” Wedi’r Llinell Derfyn Roedd dathliadau’n dilyn drwy’r prynhawn; rhai’n ymlacio ar y soffa, tra bod eraill yn lleihau eu syched â pheint. Roedd llwyfannau cymdeithasol hefyd yn llawn hunluniau wrth y llinell derfyn a sgrinluniau o ystadegau Strava. “Roedd o’n un o’r pethe anoddaf dw i wedi gwneud,” ychwanegodd Erin. “Ond byswn i’n ei wneud o eto, roedd y teimlad o’i gwblhau yn anhygoel!” I’r myfyrwyr hyn, roedd yr Hanner Marathon yn fwy na ras. Roedd hi’n gyfle i herio’u hunain, i godi arian ac i brofi’r ddinas maent yn byw ynddi mewn ffordd gwbl newydd.