Ydych chi wedi sylwi ar yr olwyn fawr ger Neuadd y Ddinas? wyn fawr ger Neuadd y Ddinas? Dyma’r arwydd fod y gaeaf ar droed ac mae’r Nadolig yn agosáu!

Trwy astudio ym mhrifddinas Cymru mae yna ddigon o gyfleoedd cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn, ond mae’r rhai Nadoligaidd hyd yn oed yn fwy arbennig!

Dyma rhai syniadau i chi a’ch fflat, ffrindiau neu deulu ei wneud yn ystod yr Ŵyl!

Christmas tree with red baubles and wrapped presents
Photograph: Via Wikimedia Commons

Fel roeddwn yn sôn mae’r olwyn fawr wedi cyrraedd Caerdydd, felly yn amlwg un o’r pethau mwyaf poblogaidd i’w wneud ydy mynd i Winter Wonderland. Mae rhan o’r amryw o atyniadau sydd ganddyn nhw i’w gynnig yng Nghastell Caerdydd yna mae’r rhan arall ger Neuadd y Ddinas. Mae’r ŵyl ar agor o 16eg o Dachwedd hyd at yr 2ail o Ionawr, felly mae digon o amser i wneud sawl taith yno!

Bydd yn rhaid talu ar gyfer chwarae neu brofi’r atyniadau, er hyn mae mynediad am ddim – mae’n le hyfryd i fynd am dro. Mae tocynnau ar gael ar lein ar gyfer y sglefrio ia, y Bar Ia a hefyd yr olwyn fawr.

Un peth rydw i’n edrych ymlaen at weld eto ydy Marchnad Nadolig Caerdydd ar hyd yr Ais.

Mae busnesau lleol yn cael cyfle i arddangos eu cynnyrch mewn hytiau ar hyd y stryd.

Yn ogystal, mae stondinau bwyd a diod, gyda man i eistedd a chymdeithasu.

Mae’n digwydd ar hyd strydoedd siopau Caerdydd.

Agorodd y Farchnad ar y 9fed o Dachwedd ac maent ar agor hyd at 23ain o Ragfyr.

Eleni eto mae Parc Biwt yn cynnal arddangosfa golau anhygoel.

Ar ddechrau a diwedd y llwybr mae yna stondin fwyd a Phentref Nadolig.

Mae’r sioe olau yn digwydd o 24ain o Dachwedd hyd at y 1af o Ionawr.

Mae’n brofiad i’r synhwyrau gyda goleuadau, cherddoriaeth a bwyd, ac mae tocyn i oedolyn yn £19.50.

Gobeithio bod hyn wedi eich ysbrydoli i wneud y mwyaf o’r Nadolig yng Nghaerdydd!