Mae’r pryder o ddechrau neu ailddechrau’r brifysgol yn fis Medi yn straen enfawr ar y corff. Gyda chofid yn ailgydio adeg yma o’r flwyddyn, mae’n anodd iawn i osgoi dal ‘freshers flu’ neu cofid... efallai’r ‘freshers flu’ newydd?
Dyma gyfres o hanfodion i nid yn unig oroesi’r flwyddyn, ond i lwyddo drwyddi trwy dymor y ffliw!
Y cam cyntaf ar gyfer hanfodion oroesi’r semester yw cael digon o gwsg, ond nid i aros yn wely trwy’r dydd. Bydd cadw at drefn ddyddiol yn sicrhau defnydd effeithlon o’ch amser. Bydd codi a mynd allan am awyr iach megis mynd am dro o gwmpas parc Bute, yn gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol.
Os nad yw hyn yn apelio atoch, gall mynychu sesiynau yn y gym lleol rhoi’r cyfle i chi gymdeithasu a bod mewn awyrgylch gwahanol. Yn ystod wythnos y glas hyd at y mis Hydref, mae cwmnïoedd ‘JD Gyms’ a ‘The Gym Group’ yn cynnig dêl aelodaeth myfyrwyr, sydd yn arbed talu aelodaeth lawn yn y mis gyntaf. Felly mwy o arian i wario ar rywbeth neu yn rhywle arall!
Bydd bwyta’n iach a chreu bwydlen wythnosol yn galluogi i chi arbed arian ac osgoi gwario arian gwerthfawr ar dripiau cyflym i Tesco Express lawr y stryd. Meddyliwch am gerdded y pellter ychwanegol yna i archfarchnadoedd fel Lidl neu Aldi am y cynhwysion i’ch prydau. Mae prynu bwydydd tin a nwyddau pob dydd o siopau fel Lidl yn arbed y ceiniogau sydd yn creu byd o wahaniaeth tra yn y semester cyntaf wrth feddwl am dalu biliau a rhent. Bydd lawr lwytho apiau fel ‘Lidl Plus’ a chasglu pwyntiau ‘clubcard’ a ‘Nectar’ yn rhoi gwobrau ac yn arbed arian pellach ynghyd a siopa yn yr ardal ‘reduced’.
‘Nectar’ yn rhoi gwobrau ac yn arbed arian pellach ynghyd a siopa yn yr ardal ‘reduced’
Cofiwch i stocio’r fyny ar y ffrwythau a llysiau ynghyd â’r ‘multivitamins’ i gryfhau eich system imiwnedd yn enwedig yn ystod wythnos y glas. Mae hyn yn fuddiol yn erbyn heintiau ond hefyd yn gwella eich ‘hangovers’.
Rhai weithiau mae’n rhaid trîto eich hun er mwyn gwobrwyo’r gwaith caled rydych wedi cyflawni, sydd yn helpu gydag iechyd meddwl. Os rydych yn neud hyn, ceisiwch edrych allan am y ‘discounts’o fewn y siopau ac ar ‘uni days’. Peidiwch fod yn swil i ofyn ym mhob siop os maent yn cymryd ‘student discount’, mae pob ceiniog yn helpu!

