Toc ar ôl y Nadolig, bues i’n lwcus i sgwrsio â Takeshi Koike sydd yn dysgu Cymraeg i bobl yn Japan ar ôl iddo ddysgu’r iaith pan oedd yn astudio yng Nghymru yn 1992.
Yn 1992, daeth Takeshi i Gymru a Phrifysgol Llanbed lle ddysgodd yr iaith Gymraeg gan fod ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth.
Wrth siarad â Gair Rhydd, soniodd ei fod yn dysgu’r Gymraeg i fyfyrwyr ifanc fel rhan o fodiwl ‘Cymru: ei diwylliant a’i hiaith’ ers iddo ddychwelyd i Japan.
Ar ôl dychwelyd i Japan, sylweddolodd bod nifer o Gymry yn byw yn Japan a daeth yn ymwybodol o Gymdeithas Dewi Sant yn Tokyo. “Cwrddais â dyn o Abertawe a dechreuon ni ddysgu Cymraeg i bobl mewn caffis, ysgolion, unrhyw le yn Tokyo!” dywedodd wrth Gair Rhydd.
“Nes i sylweddoli bod llawer o bobl o Gymru yn byw yn Japan”
Bu’n dysgu Cymraeg i drigolion Tokyo oedd â diddordeb yng Nghymru a bellach mae’n dysgu dros 25 o fyfyrwyr ar ei fodiwl ym Mhrifysgol Tokyo.
Wrth sôn am ei brofiadau yn dysgu Cymraeg i drigolion Japan, soniodd am stori un myfyriwr a ddaeth i Brydain i ddysgu Saesneg ac yna ymweld â Chymru gan sylweddoli pa mor fyw yw’r iaith yng Nghymru.
“iaith ddiddorol”
Mewn e-bost at Takeshi, dywedodd y myfyriwr “nawr dwi’n gweld yr iaith Gymraeg yn fyw, dwi’n deall pam [fod Takeshi mor awyddus i ddysgu Cymraeg]”. “Wrth ddarllen yr e-bost, teimlais yn falch” meddai Takeshi Koike wrth Gair Rhydd.
Dywedodd fod “rhaid ymweld â Chymru i ddeall rhinwedd y diwylliant” a bod siarad Cymraeg wrth ymweld â Chymru yn “cyfoethogi’r daith”.
“allwedd diwylliant Cymru yw’r iaith”
Mae Takeshi yn gweithio ar gynnwys ar-lein wrth wneud clipiau fideo i ddysgu sut i ynganu llythrennau’r wyddor Gymraeg ac yn gobeithio gwneud mwy o glipiau i helpu pobl ar draws y byd i ddysgu Cymraeg!

