Bu farw’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, un o ffigurau mwyaf blaenllaw gwleidyddiaeth Cymru, yn 78 oed. Yn angerddol dros ei weledigaethau, roedd yn wleidydd egwyddorol nad oedd yn ofni herio safbwyntiau.
Yn 1974, yn ddim ond 27 oed, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Blaid Cymru. Daeth yn arweinydd y blaid yn 1984, gan ddal y swydd hyd at 1991. Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd ran allweddol yn ail-lunio safbwyntiau’r blaid tuag at Ewrop ac yn ei hadfywiad wedi methiant y refferendwm datganoli yn 1979. Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Rydym yn cofio Dafydd fel un a dorrodd dir newydd, fel yr Aelod Seneddol ieuengaf yn San Steffan… ac aeth ymlaen i arwain Plaid Cymru gydag angerdd ac afiaith.”
Yn 1992, cafodd ei enwebu yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi fel y Barwn Elis-Thomas o Nant Conwy - penderfyniad a gododd densiynau o fewn Plaid Cymru. Serch hynny, parhaodd i fod yn gynrychiolydd brwd dros Gymru a’i phobl.
Daeth yn Llywydd cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, gan osod sylfeini cadarn ar gyfer y sefydliad newydd. Dywedodd Darren Millar ei fod yn hollol allweddol i Senedd Cymru, Llywodraeth Cymru a Datganoli yn y cyfnod hwn: “Roedd yn gonglfaen i’r syniadaeth, ac yn bensaer llawer o’r systemau sydd gennym heddiw.”
Dywedodd Llywydd presennol y Senedd, Elin Jones: “Ef oedd craig sylfaen ein Senedd.”
Er iddo gamu o’r rôl fel Llywydd yn 2011, parhaodd i fod yn ddylanwadol ym myd gwleidyddiaeth Cymru. Yn ystod teyrngedau yn y Senedd yr wythnos hon, disgrifiodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ef fel “cawr gwleidyddol, gydag ochr ddrygionus” a oedd yn “feistr ar adeiladu pontydd gwleidyddol.”
Yn wir, roedd ei allu i adeiladu pontydd yn un o’i gryfderau mwyaf - er y bu iddo losgi rhai pan adawodd Plaid Cymru yn 2016. Parhaodd i wasanaethu fel aelod annibynnol, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Lafur Cymru. Yn 2017, fe’i benodwyd yn Ddirprwy Weinidog, swydd a ddaliodd tan iddo ymddeol o’r Senedd yn 2021.
Roedd Dafydd Elis-Thomas yn wleidydd a fentrodd yn groes i ddisgwyliadau, yn dadlau dros ei egwyddorion a’n ffigur allweddol yn natblygiad gwleidyddol Cymru. Ni ellir tanseilio ei gyfraniad i wleidyddiaeth, bydd ei golled i’w deimlo’n sylweddol -
“Ni ddaw neb yn llywydd, I’r bwlch” - Rhys Iorwerth

