Be’ gwell ar noson oer o Hydref ‘na noson gomedi yn yr Undeb Myfyrwyr i godi hwyliau. Roedd Cangen Caerdydd wedi cyd-weithio â Menter Iaith Rhondda Cynon Taf i ddarparu noson llawn chwerthin i staff ac i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ni wyddwn beth i ddisgwyl cyn y digwyddiad gan nad oeddwn i wedi clywed am y digrifwyr (comedians) oedd yn cymryd rhan – ond teg yw dweud nad oeddwn wedi fy siomi!

Y comedian MC Beth Jones o Ddimbych oedd yn cyflwyno’r noson a doniol iawn oedd clywed am ei chyfnod hi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ble’r oedd yn bosib iddi fynd allan am y noson a dim ond gwario £5 – rhywbeth anarferol iawn i ni fyfyrwyr heddiw! Roeddwn i’n gwybod o’r cychwyn y byddai’r noson yn ddiddannol wrth i MC Beth Jones lwyddo i ddennu sylw’r gynulleidfa o’r munud y camodd hi ar y llwyfan.

Yr ail i ymddangos ar y llwyfan oedd Eleri Morgan o Aberystwyth. Yn sicr, llwyddodd Eleri i ddifyrru’r gynulleidfa gyda’i straeon crai. Wrth gymharu diwylliant plentydon Cymraeg i ddiwylliant Saesneg llwyddodd Eleri i bwysleisio pan mor rhyfedd yw ystyrion hwyangerddi Cymraeg – ac roedd llond ‘stafell o chwerthin i’w glywed.

Neon signs outside a comedy club at night, with vehicle light trails in the street.
Photograph: bradleypjohnson Flickr

Harri Dobbs o Gaerffili oedd y trydydd i gamu ar y llwyfan. Er nad yw Harri wedi bod yn perfformio ers yn hir, fe lwyddodd i ddyddannu’r gynulleidfa cymaint â’r gweddill. Agorodd allan am faterion personnol iawn, megis iechyd meddwl, rhywioldeb a perthnasau teuluol – ond yn parhau i gadw’r ysbryd comedi, rhywbeth dychmygwn sydd ddim yn hawdd i’w wneud. Rwyf yn edmygu hyder Harri i ddifyrru cynulleidfa ag yntau mor ifanc.

Yn dilyn yr egwyl, cyfle Josh Pennar oedd hi ar y llwyfan. Os oes rhaid imi ddewis ffefryn, dyma fo! Hoffais y ffordd roedd Josh yn cymdeithasu ac yn cynnwys y gynulleidfa yn bennaf. Doniol oedd clywed ei hanes yn yr ysgol yn ogystal â’i farn ef amdanom ni y gogs. “Mae gogs yn meddwl bo’ nhw yn fwy cwl achos nhw sydd gyda’r miwsic gora’”, meddai Josh – mae rhaid dweud bod hynny’n wir!

Dan Thomas oedd yr olaf i ymddangos ar y llwyfan i sôn am y cynnydd sylweddol sydd o fewn comedi Cymraeg yn ddiweddar. Adroddodd straeon doniol iawn am y ‘Free Wales Army’ ac mai’r peth gwaethaf yr oedden nhw yn ei wneud oedd dod fyny gyda ‘nicknames.’ Roedd Dan hefyd yn llwyddo i siarad â’r gynulleidfa, ac dwi’n siwr nad oedd yn deall gair o fy acen Caernarfon i ac roeddwn i yn cael trafferth deall ei acen Abertawe o!

Roeddwn wedi mwynhau’r noson yn fawr ac braf iawn oedd clywed am gynnydd gigs comedi Cymraeg – fodd bynnag, bechod garw nad oedd mwy o fyfyrwyr wedi troi fyny ar gyfer y noson!