Gall dechrau’r Brifysgol fod yn gyfnod ansicr ac ofnus. Ond gall ymuno â chymdeithasau a chymryd rhan mewn digwyddiadau rhoi’r cyfle i greu ffrindiau a chreu cysylltiadau. Gallwch weld hyn yn haws trwy’r Gymraeg efallai?

Dyma rhai awgrymiadau bydd yn gwneud eich cyfnod cyntaf yn y Brifysgol ychydig yn haws!

‘Y Gym Gym’

Yn gyntaf dylech gael golwg ar gyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas Gymraeg, neu fel mae’n cael ei hadnabod ‘Y Gym Gym’. Mae’r Gym Gym yn trefnu digwyddiadau amrywiol sydd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd â phobl o bob cwr o Gymru sydd wedi dod i astudio yn y Brifysgol. Mae crôlau diri yn cael eu trefnu yn aml yn ystod y semester gyda themâu amrywiol, gan amlaf bydd y crôl yn gorffen yn Retro’s.

Yn ogystal bydd y Gym Gym yn trefnu tripiau a digwyddiadau yn ystod y flwyddyn sydd yn brofiadau gwych tu hwnt i Gaerdydd megis tripiau rygbi yng Nghaeredin a Dulyn a digwyddiadau rhyng-golegol o gwmpas Cymru. Mae’r digwyddiadau Rhyng-golegol yn cynnwys Eisteddfod a dawns flynyddol sydd yn uno Prifysgolion ar draws Cymru megis Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Phrifysgolion Y Drindod Dewi Sant.

Chwaraeon ‘Y Gym Gym’

Mae gan ‘y Gym Gym’ cangen chwaraeon sydd hefyd yn gyfle gwych i gymdeithasu drwy gemau pêl rwyd, pêl droed neu rygbi.

Yn ystod y flwyddyn mae ymarferion a gemau wythnosol yn cael eu cynnal gan gapteiniaid y timoedd. Dyma amserlen ymarferion eleni: Pêl rwyd—Nos Wener rhwng 6:30–7:30 ar gyrtiau Llys Talybont. Rygbi—Dydd Mercher (manylion i’w cadarnhau yn fuan).

Pêl droed – Dydd Mercher (manylion i’w cadarnhau yn fuan).

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau cyfryngau cymdeithasol chwaraeon y Gym Gym.

Canu Cymraeg?

Aelwyd y Waun Ddyfal

Os yw canu yn y Gymraeg yn cymryd eich ffansi, ymunwch gydag aelwyd y Waun Ddyfal sydd ar gyfer unrhyw un rhwng 18–25 mlwydd oed.

Mae ymarferion wythnosol ar nos Fawrth rhwng 7–8 y.h yn Eglwys y Crwys. Mae’r Aelwyd yn cystadlu a pherfformio mewn ystod o ddigwyddiadau megis yr Eisteddfod, digwyddiadau o fewn y Senedd a Chôr Cymru.

Cyfryngau Cymdeithasol Cymraeg UMCC – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd

Ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol yr Undeb mae yna gyhoeddiadau ar gyfer digwyddiadau’r Undeb drwy’r Gymraeg megis y Stomp Gŵyl Ddewi a gynhaliwyd eleni gydag uned Ysgol y Gymraeg.

Ar y tudalennau yma gallwch ddarganfod gwybodaeth ar gyfer etholiadau blynyddol y Brifysgol a manylion cyswllt Cymraeg y Brifysgol. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Coleg Cymraeg) Mae gan y Coleg Cymraeg amrywiaeth o adnoddau sydd yn fuddiol ac yn werthfawr ar gyfer myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol. Mae nifer o wybodaeth ar lein, ar eu gwefan megis newyddion a blogiau, citiau cymorth pynciau arbenigol megis newyddiadura a gwybodaeth hanfodol.

Mae’r rhain yn rhoi golwg ar ddigwyddiadau o fewn Prifysgolion a digwyddiadau Cymreig cyffredinol.

Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg hefyd yn darparu arian ar gyfer astudio drwy’r Gymraeg sydd yn gymorth enfawr fel glasfyfyriwr! Gallwch ffeindio’r holl wybodaeth yma ar wefan y Coleg Cymraeg: https://colegcymraeg.ac.uk/canlyniadau-chwilio/?k=ysgoloriaethau&sb=0&fb=&pn=1&l=cy