Owain Davies
Cymraeg a Newyddiaduraeth
Wel cyn gem Croatia doedd dim gobaith i weld. Ond erbyn hyn mae bob dim wedi newid! Dwy gem enfawr i fynd! Mae pawb yn gwybod y siom o’r gêm Armenia diwethaf felly fedra’ ni ddim gymryd y buddugoliaeth yn ganiataôl. Dyda’ ni ddim yn ei wneud yn hawdd i ni’n hunain ond dwi dal i gredu fydda ni yn yr Almaen haf nesa’. I mi, os mae’n bosib curo’r tîm sydd 8fed yn y byd, gallwn curo unrhyw un. Gyda’r ieuenctid megis Jordan James yn datblygu ac yn cael munudau ar y cae gan Rob Page, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Gymru. Gyda’r ymgyrch yn afantol yn y gem olaf yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd, mi fydd y swn yn y stadiwm yn fuddarol. Yn bersonol, dydw i ddim eisiau gorfod mynd i’r gemau ail gyfle i allu fynd i’r Ewros felly, mae’n rhaid i ni gwneud y job yn y ddwy gêm nesaf! Ymlaen i’r Almaen!!
dwi’n hyderus yn ddistaw bach fod ni am ei neud hi!
Osian Tudur
Y Gyfraith a’r Gymraeg
Cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Croatia roeddwn yn teimlo yn reit anobeithiol am gyrraedd yr Ewros blwyddyn nesaf. Ond roedd y buddugoliaeth yn erbyn Croatia yn anferth i ni, ac yn hwb mawr yn hyder y chwaraewyr a hefyd y cefnogwyr i gyd. Yn amlwg nid yw’r 2 gem sydd ar ôl yn hawdd o gwbl, mae’n bwysig cofio hyn. Mae chwarae i ffwrdd mewn gwlad bell fel Armenia wastad yn her, a mae gen Twrci dîm talentog dros ben. Ond rwyf yn credu fod gen ni ddigon o dalent a cefnogaeth i gael 6 pwynt o’r 2 gem olaf.

