Ydych chi byth wedi gwrando ar ganeuon Elvis Presley? Ganwyd yr eicon cerddorol yn Mississippi yn 1935, a thrwy gydol ei oes gwerthodd dros biliwn o recordiau ledled y Byd, yn trawsnewid cerddoriaeth am byth.
Awgrymodd yr academydd Terry Breverton bod gwreiddiau Elvis yn ardal y Preseli yng ngorllewin Cymru. Awgrymodd fod gysylltiad rhwng y canwr ac ardal Sant Elvis ym mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.
Gellid clywed y tebygrwydd a sut gall yr ystyriaeth ei wneud – Elvis Presley o Sant Elvis, Preseli. Mae’n bosib felly, bod Brenin Roc a Roll yn dod yn wreiddiol o Gymru, ond oes cysylltiadau arall?
Mae sawl academydd wedi ymchwilio i gysylltiad Elvis gyda Hen Wlad ein Tadau, a bu rhai’n uwcholeuo’r cysylltiadau rhwng y teulu Presley ac enwau Cymraeg.
Yn gyntaf, mae enw canol Elvis ‘Aron’ wedi’u sillafu heb yr ail ‘A’, a bu enw canol ei efell bu farw ar enedigaeth ‘Garon’ yn ychwanegu at yr honiadau o Gymreictod yn y teulu.
Mae enw eu Mam, Gladys, hefyd yn gyswllt i Gymru. Awgrymai Breverton ei bod yn bosib i Fam-gu Elvis, Doll Mansell, perthyn i’r teulu Mansel enwog o Oxwich yn ardal Gwyr, Abertawe.
Bu farw Elvis yn 1977, ond mae ei ddylanwad yn dal i gael ei theimlo ledled y Byd, gan gynnwys yng Nghymru. Mae’r ŵyl fl ynyddol i Elvis ym Mhorthcawl yn denu dros 40,000 o gefnogwyr i ddathlu bywyd, cerddoriaeth, a dawnsio’r eicon.
Mae’r ŵyl yn cynnwys cystadleuaeth lle mae cystadleuwyr yn gwisgo, dawnsio, a chanu fel Mr. Presley, ond mae amryw o stondinau a pherff ormiadau arall yn creu penwythnos o roc a roll.
Bydd yr ŵyl yn dechrau ar y 27ain o Fedi eleni, a gellid darganfod mwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Mae nifer o wledydd yn honni fod eicon mwyaf cerddoriaeth yn ôl nifer, Elvis Presley, yn dod o’u gwlad. Yn rhan o’r gwledydd yma mae Cymru, sy’n honni fod cysylltiadau rhwng y Brenin Roc a Roll ac ardal hardd yng ngorllewin y wlad.
Er i Elvis byth ymweld â’r wlad yn ei oes, mae’n bosib bod ganddo gysylltiad agos ati.

