Cyfnod cyffrous sydd wedi wynebu’r GymGym yma yn y brifysgol wedi i’r pwyllgor newydd gael ei ethol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bu i 16 o aelodau’r GymGym gystadlu am bleidleisiau ac yn dilyn wythnos o bendroni a phleidleisio y 4 canlynol ddaeth yn fuddugol; Teifi Mead, Elliw Strain, Erin Gwilym ac Iwan Bryer. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y pwyllgor newydd.
Teifi yw’r unigolyn fydd yn cymryd cyfrifoldebau’r llywydd ac yn arwain gweddill y pwyllgor medrus. Daw Teifi o Gaerdydd ac yn astudio Daear Dynol a Chynllunio yn y Brifysgol. Dyma neges gan y llywydd newydd: “Dwi methu aros i fod yn aelod o bwyllgor y GymGym flwyddyn nesa!
Fel aelod o’r gymdeithas eleni, dwi ‘di joio mas draw ac yn awyddus i sicrhau bydd yr aelodau’n cael blwyddyn arbennig. Fel llywydd, dwi am geisio ymhelaethu ar waith y pwyllgor eleni gan wneud yn siwr bod yr holl waith yn cael ei chydlynu’n effeithiol a bod y tripiau a’r crôls amrywiol yn well nag erioed. Diolch am roi eich ffydd ynof i ac mi welai chi gyd ym mis Medi!” Elliw sydd wedi’i hethol i gyd-weithio â Teifi ac yn is-lywydd y gymdeithas.
Daw Elliw o bentref Bryncroes ym Mhen Llŷn ac yn astudio’r Gyfraith yn y Brifysgol. Mae Elliw eisoes wedi rhannu rhai o’i hamcanion er mwyn cynnal elfennau cymdeithasol y gymdeithas; “Swni’n licio trefnu mwy o ‘day outs’ fel cymdeithas ond hefyd cadw rhai o’r traddodiadau; crôl teulu yn ben dant! Gyda sôn am gynnal y ‘Steddfod rhyng-gol yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf hefyd, dwi wir yn edrych ‘mlaen am y cyfle i ‘hymblo’ criw Aber a Bangor... yng nghystadleuaeth y côr oleiaf.” O Lanarthne ger Caerfyrddin daw Iwan y trysorydd sydd yn astudio Mathemateg ac Ystadegau yn y Brifysgol.
Bu i Iwan rannu rhai o’i brif amcanion fel trysorydd eleni: “Rwyf am sicrhau fod ochr ariannol y GymGym yn cael ei redeg yn drefnus a gwneud yn siwr fod yr aelodau’n talu am bopeth mewn digon o amser. Hefyd rwy’n edrych ‘mlaen i gyd-weithio i drefnu’r ‘socials’ gwahanol, croesawu’r ‘freshers’ a chynnal a defnyddio fy rôl o fewn y pwyllgor i hybu’r iaith.” Y Gyfraith mae’r ysgrifennydd, Erin o Lanrug, yn ei astudio hefyd ac mae hi’n mawr obeithio fod y pwyllgor newydd am gyflawni cystal swydd a’r pwyllgor eleni. Dyma ragflas o rai o’i chynlluniau; “Fel ysgrifennydd fy nghynllun ydi gwneud yn siwr fod y cyfathrebiad rhwng y pwyllgor ac aelodau’r Gym- Gym yn eglur.
Yn ychwanegol, rwyf am wneud fy ngorau i gyfrannu syniadau dilys er mwyn sicrhau y bydd pawb yn mwynhau’r crôls a’r tripiau.” Felly, dyma’r unigolion brwdfrydig, newydd sydd wedi’u hethol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn sicr maent wedi rhoi’r argraff fod Y GymGym mewn dwylo diogel a bod yr holl aelodau, hen a newydd, am gael chwip o flwyddyn eleni.

