Wrth i’r cyfnod olaf yn y Brifysgol agosáu, rhaid meddwl am y cyfleoedd sydd ar gael yn ystod yr haf. Gall manteisio ar swyddi perthnasol ac interniaethau cryfhau eich CV sydd yn apelgar at gwmnïoedd a chyfl ogwyr y dyfodol. Gall hyn fod yn dasg anodd, ac mae gwybod le i ddechrau yn heriol.

Ond mae yna ddigon o opsiynau ar gael!

Y lle orau i gychwyn byddai diweddaru eich CV, cyn ceisio am unrhyw swydd.

Wrth adeiladu neu ddiweddaru eich CV, rhaid ichi gofio am y profiadau perthnasol fydd yn gwneud i chi sefyll allan yn y pentwr o’r ceisiadau.

Byddai teilwra eich CV, a rhoi’r profiadau mwyaf perthnasol a hanfodol ar frig y dudalen yn denu sylw’r cyflogwr. Mae Cyfl ogwyr yn treulio 6-8 eiliad yn sganio CV cyn penderfynu os yw’r ymgeisydd yn addas ar gyfer y swydd neu beidio.

Mae 80% o CV’s ddim yn pasio’r pwynt yma! Felly rhaid i chi sicrhau fod gennych bwynt gwerthu unigol fel cydweithiwr da!

Gwefan ‘Dyfodol Myfyrwyr’ y Brifysgol

Darparai’r Brifysgol wefan ‘Dyfodol Myfyrwyr’ sydd yn rhoi’r cyfl e i fyfyrwyr adeiladu eu profiadau trwy amryw o ddulliau.

Mae’r cymorth ar y dudalen yn cael i’w categoreiddio o dan yr adrannau canlynol:

Digwyddiadau

Apwyntiadau

Bwrdd Swyddi

Profiad Gwaith

Ffurflenni

Llwybrau

Fel rhan o’r adran apwyntiadau gellir ymweld â chynghorydd gyrfaoedd i drafod y camau nesaf a’r opsiynau sydd ar gael.

Yn ogystal mae yna adnodd ‘gwiriwr CV’ sydd yn gymorth cyflym ar gyfer gwirio strwythur a chynnwys.

‘Job Shop’

Y cam nesaf ar ôl diweddaru eich CV fyddai ymweld â gwefannau i chwilota am swyddi/ interniaethau perthnasol.

Mae hefyd gan y brifysgol wefan ‘Job Shop’ sydd yn rhannu cyfleoedd mewnol i’r Brifysgol. Mae’r rhain yn amrywio o swyddi a thâl, interniaethau hyd at gyfl eoedd gwirfoddol.

LinkedIn

Byddai creu proffil ‘LinkedIn’ yn cynyddu’r cyfl e o greu cysylltiadau proffesiynol bydd yn creu cyfleoedd o fewn y diwydiant o ddiddordeb i chi.

Mae LinkedIn yn ffordd dda o gofnodi profiadau a llwyddiannau o fewn y byd gwaith.

Gall cyflogwyr hefyd cysylltu â phroffi l yn uniongyrchol, yn ogystal â rhannu swyddi a digwyddiadau o fewn eu cwmni.