Mae dwy fyfyrwraig a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn gweld gwerth mawr yn y profiad, ac yn cytuno y bydd eu profiadau o fudd iddynt yn y dyfodol. Bydd Fflur James a Beca Bowen, sydd yn eu hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn cystadlaethau amrywiol ddiwedd y mis. Er i’r ddwy gytuno fod yna rhywfaint o stigma ynghylch cystadlu wedi gadael yr ysgol, dywed Fflur fod angen “rhoi wfft i’r stigma oherwydd rydyn ni gyd yn dal i fwynhau e, felly hir oes i’r Eisteddfod”.
Dywed Fflur mai ei phrif reswm dros barhau i gystadlu “yw’r ffaith bod e’n dod â phleser mawr i fi”. Ychwanegodd, “mae mor braf rhoi’r holl waith caled ar y llwyfan mewn un perfformiad.” Dywed Beca ei bod hi’n mwynhau cystadlu yn yr Urdd fel myfyrwraig gan ei fod yn “brofiad newydd ond cyfarwydd ar yr un pryd”. Ychwanegodd, “os mae’r Urdd yn cynnal y cystadlu tan 25 mlwydd oed, pam ddim cario ‘mlaen i fwynhau cystadlu gyda phobl newydd?” Yn ogystal â’r mwynhad mae’r ddwy yn ei brofi, maent yn credu y bydd eu profiadau yn werthfawr wrth iddynt wrth gamu i’r byd gwaith ymhen rhai blynyddoedd.
Mae Fflur wedi bod yn gystadleuydd brwd mewn cystadlaethau llefaru a siarad cyhoeddus ar hyd y blynyddoedd ac yn credu y bydd y profiadau hyn yn fantais fawr iddi fel rhywun sy’n awyddus i gamu i faes newyddiaduraeth a’r cyfryngau. Dywed, “heb y sgiliau dwi ‘di magu ar lwyfan ‘Steddfod yr Urdd ac Eisteddfodau lleol, fydden i ddim â’r un math o hyder”. Ychwanegodd, “ma’r sgiliau hynny yn mynd i fod mor mor ddefnyddiol a dim ond ni yng Nghymru all hawlio hynny”.
Yn ôl Beca, “dwi’n credu fod unrhyw fath o gystadlu’n codi hyder unrhyw un a bydd hynny o hyd yn ddefnyddiol”. Dywed fod cystadleuwyr yn ymarfer sgiliau pwysig wrth “reoli amser a chymryd cyfrifoldeb ein bod ni’n dod i’r ymarfer, yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen ac wedi paratoi os oes angen”. Er bod y ddwy yn cydnabod ei bod hi’n waith caled cydbwyso llwyth gwaith prifysgol ac ymarferion Eisteddfod yr Urdd, roeddent yn gytûn bod mynychu ymarferion yn gyfle i gael saib o’u gwaith a mwynhau am gyfnod.
Meddai Beca, “mae hi’n braf cael saib a gwneud rhywbeth hollol wahanol am awr neu ddwy.” Yn ôl Fflur, “Ma’ fe’n gofyn am ddyfalbarhad a gwytnwch i ddweud y gwir oherwydd ma’ gwaith prifysgol yn brysur adeg mis Mai. Ond mae e’n ddihangfa hefyd wrth y gwaith ac yn golygu fy mod i’n gallu cael ychydig o hoe a gwneud rhywbeth dwi wrth fy modd yn ei wneud”. Mae’r ddwy yn aelodau brwd o aelwyd y Waun Ddyfal, ynghyd â nifer o fyfyrwyr eraill y brifddinas.
Fel llawer o ysgolion, aelwydydd, ac unigolion eraill ledled y wlad, maent yn brysur yn paratoi ar hyn o bryd gan obeithio y bydd yr holl waith caled yn talu ar ei ganfed ymhen rhai wythnosau. Pob lwc i bawb a fydd yn cystadlu!
