Cyhoeddwyd yn nôl ym mis Ebrill mai’r enw Cymraeg ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn unig sydd i’w gael ei ddefnyddio o hyn ymlaen, fel rhan o hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal. Wedi ei sefydlu yn 1957, mae Bannau Brycheiniog yn un o’r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru, ynghyd â Pharc Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro. Mae’r parc yn denu miloedd o ymwelwyr yn flynyddol ac yn adnabyddus am gynnal yr ŵyl boblogaidd, ‘Green Man’. Bellach, ni fydd y term Saesneg ‘Breacon Beacons National Park’ yn cael ei ddefnyddio.
Yn ôl llefarydd ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol, trafodwyd y mater o ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig am dros ddwy flynedd wrth i’r penderfyniad ddod ar sail “adborth gan banel rhanddeiliad, cynulliad y bobl a phroses ymgyngori ar y brand.”
Daeth hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ôl ym mis Tachwedd llynedd yn dweud mai’r enwau Cymraeg yn unig fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer Eryri a’r Wyddfa.
Er gwaethaf y gefnogaeth gan y Cymry yn dilyn y cyhoeddiad ar wefannau cymdeithasol, roedd sawl, yn cynnwys Prif Weinidog y DU yn anghytuno â’r newid. Awgrymodd Rishi Sunak fod pobl am anwybyddu’r enw Cymraeg ar y Parc. Dywedodd, “When it comes to the Breacon Beacons, the first thing to say is this is an internationally renowned place to visit, it attracts visitors from all around the world.” Dywedodd hefyd fod pobl Prydain yn ‘wirioneddol falch’ o’r Parc Cenedlaethol, cyn ychwanegu ei fod ef am barhau i alw Bannau Brycheiniog yn ôl yr enw Saesneg, gan ddychmygu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud yr un fath.
Sbardunodd hyn ddicter amlwg ymysg y Cymry ar wefannau cymdeithasol, gyda un yn nodi taw “nid cyfieithiad Cymraeg yw Bannau Brycheiniog. Dyna’r enw Cymraeg ar yr ardal fynyddig hon, ac mae’n hŷn na’r enw Saesneg ac yn wahanol iddo.” Ar y llaw arall fodd bynnag, mae’n amlwg fod eraill yn cytuno â’r hyn oedd gan Prif Weinidog y DU i’w ddweud, gyda rhai yn dadlau fod Cymru yn wlad ddwyieithog a bod hawl i ddefnyddio’r term Saesneg ar Barc Bannau Brycheiniog.

