Am y tro cyntaf erioed, mae Prifysgol Caerdydd yn lansio Gŵyl Gymreig - Embrace Your Welshness. Dros gyfnod o ddeg diwrnod bydd y Brifysgol yn dathlu popeth yn ymwneud â diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg. Mewn datganiad, dywed Undeb Myfyrwyr Caerdydd mai bwriad yr ymgyrch “yw dathlu ein Cymreictod a’n gwahaniaethu oddi wrth Undebau Myfyrwyr a Phrifysgolion tu allan i Gymru”.

Yn ôl Cynwal ap Myrddin, Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr, “weithiau da ni [y Brifysgol a’r Undeb] ddim yn clodfori neu’n ymfalchïo yn ein Cymreictod digon. Gobaith hwn ydy fod o’n rhyw kickstart i ymgyrch fwy parhaus fydd yn digwydd yn fwy cyson”.

Fel rhan o’r ymgyrch bydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal i staff a myfyrwyr rhwng y 25ain o Chwefror a’r 6ed o Fawrth.

Bydd rhain yn cynnwys twmpath dawnsio gwerin, noson gwis am Gymru a sesiynau blasu’r Gymraeg.

Ond nid yn unig myfyrwyr Cymraeg sy’n cael eu targedu gan y dathliadau.

Mynegodd Cynwal ei bryderon fod llawer o fyfyrwyr y Brifysgol ddim yn ymwybodol o ddiwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg, ond “drwy fwy o ymgyrchoedd fel’ma sy’n cwmpasu pawb, dim jyst myfyrwyr Cymraeg, gobeithio allwn ni newid hwnna”.

Y noson fydd yn denu’r ganran fwyaf o fyfyrwyr yw’r noson glwb ‘Iolo’ yn Undeb y Myfyrwyr, yn hytrach na’r noson ‘Yolo’ arferol.

Bydd caneuon gan artistiaid o Gymru ac ambell gân Gymraeg yn cael eu chwarae drwy gydol y noson, a bydd llawer o gymdeithasau’r Brifysgol hefyd yn gwisgo fel eicons Cymreig. Eglurodd Cynwal, “Bwriad y noson ydy er mwyn trio neud yn siŵr bod ni’n gynhwysol i bawb a bod pawb wedyn oleiaf wedi profi rhywbeth i wneud efo’r wythnos”.

Mae cyrraedd cynulleidfa eang a thynnu sylw at ddigwyddiadau’r ymgyrch yn hollbwysig, a bydd y cyfan yn cael ei ffrydio ar gyfryngau cymdeithasol Undeb y Myfyrwyr (@cardiffstudents).

Eglurodd Cynwal, “bydd bob dim yn weledol i bawb sy’n dilyn Cardiff Students. Mi fyddan nhw’n gweld pobl yn dawnsio gwerin, mi fyddan nhw’n gweld pobl yn dysgu Cymraeg, yn gweld darnau o’r gyngerdd. Ma’ isio prif ffrydio bob dim a gwneud yn siŵr bod pobl yn sylweddoli dydy Cymru ddim yr un peth â Lloegr. Ma’ genno ni ein traddodiadau a’n diwylliant ein hunain.”

Yr Eisteddfod Ryng-gol

Yng nghanol y dathliadau, bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar y 27ain a’r 28ain o Chwefror. Mae disgwyl i tua 600 o fyfyrwyr o gymdeithasau Cymraeg prifysgolion Cymru a thu hwnt i ddod i’r Brifddinas i gystadlu mewn twrnamaint chwaraeon a chystadlaethau’r Eisteddfod.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Eisteddfod Ryng-gol gael ei chynnal yn y Brifddinas ers 10 mlynedd, ac roedd hwn yn dipyn o sbardun ar gyfer cynnal yr Ŵyl Gymreig eleni.

Dywedodd Cynwal, “O’n i’n meddwl os da ni isio neud o, hon oedd y flwyddyn achos ma ‘na buzz yn yr Undeb be’ bynnag. Ma’ staff yr Undeb yn excited bod y ‘Steddfod yn dod yma. O’n i’n meddwl jyst neud o er mwyn dechra’ fo ffwrdd.”

“Fy ngobaith i ydy bod hwn yn rhyw fath o waddol dwi’n ei adael i’r Undeb a bod o’n rhyw gytundeb answyddogol bod Is-lywydd y Gymraeg yn gweithio efo Deon y Gymraeg er mwyn gwneud yr wythnos yma’n beth blynyddol.”

Dyddiadau i’ch Dyddiadur:

Felly dewch yn llu i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant! Dyma flas ar rai o ddigwyddiadau’r wythnos:

25 Chwefror – Brecwast UMCC; noson Iolo yn Undeb y Myfyrwyr

26 Chwefror – Cyngerdd Gŵyl Gymreig - Embrace Your Welshness

27-28 Chwefror – Eisteddfod Ryng-gol

1 Mawrth – Teithiau ‘Rho Gynnig arni’ Pen y Fan a Sain Ffagan

2 Mawrth – Coginio Pice ar y Maen gyda’r Gymdeithas Bobi; Clwb Coffi, Clonc a Darllen

3 Mawrth – Twmpath Dawnsio Gwerin yn Undeb y Myfyrwyr

5 Mawrth – Cwis y Taf am Gymru a’r Gymraeg

6 Mawrth – Darllediad S4C o Gêm Cymru yn erbyn Iwerddon

Am ragor o wybodaeth, cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol @umccaerdydd a @cardiffstudents.