Democratiaeth ydy’r system wleidyddol o rhedeg gwlad lle mae holl poblogaidd y wlad yn cael eu cynnwys. Yn aml, ac yng Nghymru, mae gwleidyddion yn cael eu hethol i weithio yn y system yma ar rhan pobl eu hardaloedd. Er enghriafft, Jenny Rathbone AS sy’n cynrychioli ardal Canol Caerdydd lle mae prif adeiladau’r Brifysgol wedi’u lleoli. Mae Jenny Rathbone wedi’i hethol i gynrychioli’r ardal mewn pleidlais, lle mae gan bawb yn yr ardal cyfle i rhannu eu barn nhw.
Er mwyn cael system democratig effeithiol, mae’n bwysig felly bod pobl yn rhannu eu barn er mwyn sicrhau bod y canlyniadau mwyaf teg yn dod o’r pleidleisiau. Felly dwi am ofyn os mae system presennol Cymru yn sicrhau democratiaeth, a beth allen ni gwneud fel myfyrwyr yn y brifysgol i hybu tegwch ac effeithlonrwydd y broses.
Yn 2021 cafodd y wlad cyfle i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd, cyfle i mynegi barn am wleidyddiaeth a’r ffordd y mae’r wlad yn cael ei rhedeg. Yn ôl wefan y Senedd, mae’r gwleidyddion yn y Senedd yn “gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bob agwedd o dy fywyd”.
Yn ôl ffigyrau’r Senedd, llai na 47% o’r boblogaidd all bleidleisio oedd wedi yn Etholiadau’r Senedd yn 2021. Ers i Lywodraeth Cymru ffurfio yn 1999 (ar ôl datganoliad rhannol o Lywodraeth Prydain), mae chwe etholiad Seneddol wedi bod, mae 43.3% (ar gyfartaledd) o’r wlad yn pleidleisio.
Mewn etholiadau Cyffredinol y Deyrnas Unedig, lle mae cyfle i bobl o bob wlad y Deyrnes Unedig pledleisio yn gweld nifer fwy o Cymry yn dewis gwneud, gyda dros 65% (ar gyfartaledd ers 1999) yn pleidleisio yn yr etholiadau yma.
Y cwestiwn yw, pam? Beth yw’r rheswm dros y ffigyrau yma? Pam ydy cymaint yn fwy o bobl Cymru yn pleidleisio dros wleidyddiaeth Prydain na gwleidyddiaeth Cymru? Mae’n bosib bod thema’r rhifyn GairRhydd yma’n perthnasol: Pwysigrwydd addysgu pobl.
Ydy ffynonellau newyddion Cymru yn digonol? Oes digon o ffynonellau ar gael i bobl y wlad i ddysgu am wleidyddiaeth Cymru? Yn sicr, mae rhai ar gael. Yn ôl OFCOM, ITV a’r BBC yw’r ffynonellau mwyaf poblogaidd yng Nghymru am newyddion. Mae honiadau wedi’u gwneud gan academyddion am wendid y cwmnioedd yma i sicrhau cynnwys digonol o Gymru a’i wleidyddiaeth, bu’n bosib felly bod diffyg cynnwys ar gael i’r Cymry allu ddysgu. Mae’n sicr bod gwaith y Senedd i ddarlledu cynnwys ddwyieithog ar-lein yn amlwg i unrhywun sy’n edrych ar wefannau’r gorfforiaeth, ac yn sicr yn lle da i ddechrau er mwyn allu dysgu mwy am system gwleidyddol Cymru, a’r hyn sydd i ddod. Mae’n bosib bod y gwybodaeth ar gael ond nid lle mae’r Cymry yn edrych.
Nid yw GairRhydd neu fy hun fel awdur yn honni fod cynnwys annigonol ar gael gan y cwnioedd cyfryngau mawr, ond mae sawl academydd yn honni fod hyn y rhan o broblem democratiaeth Cymru. Mae thema’r rhifyn yma yn ceisio dangos pa mor bwysig yw addysgu eich hun a phobl arall, ac er budd dyfodol y wlad, a dyfodol ei democratiaeth, mae addysgu eich hun yn hanfodol.

