Mewn noson yng Nghanolfan y Mileniwm i ddathlu’r sîn gerddoriaeth Gymreig, llwyddodd Lemfreck i gipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024. Yn gwbl haeddiannol, enillodd y rapiwr a’r cynhyrchydd o Gasnewydd y wobr ynghyd â gwobr ariannol o £10,000 am ei albwm Blood, Sweat & Fears; Albwm a’i fryd ar dynnu ar brofiadau gonest a theimladwy ei fagwraeth ef yng Nghasnewydd.
Yn ôl Owain Elidir Williams, un o feirniaid y gystadleuaeth: “Mae’n albwm wych sydd nid yn unig yn gweithio fel cyfanwaith arbennig, ond yn teimlo fel casgliad sy’n sefyll dros rywbeth arbennig hefyd. Mae’r gwaith mae Lemfreck wedi’i neud dros y blynyddoedd diwethaf - yn rhoi llais a llwyfan i artistiaid eraill o Gasnewydd - yn wych ac mae’n llawn haeddu’r wobr.”
Wrth dderbyn ei wobr gan gyflwynydd BBC Radio 1, Siân Eleri, pwysleisiodd Lemfreck, Lemarl Freckleton, bwysigrwydd ei wreiddiau: “Mae’r wobr hon ar gyfer fy nghymuned yng Nghasnewydd.” Mewn ymateb i dderbyn y wobr, datganodd pa mor bwysig yw cynrychiolaeth yn y sîn gerddoriaeth ac nid “box tick” yw hi pan mae artistiaid fel ef yn ennill gwobrau fel hyn ond “cadarnhad o gelfyddyd”.
Ategodd Owain Elidir Williams mai dewis anodd oedd hi eleni hefyd gyda 15 o artistiaid hynod o addawol yn cyrraedd y rhestr fer: “Roedd hi’n dipyn o gur pen dewis yr albwm fuddugol.” Ond, roedd Lemfreck yn “llawn haeddu’r wobr”.
Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig
Eric Martin a DJ Jaffa enillodd Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig eleni sef gwobr i ddiolch am eu cyfraniadau drwy gydol eu gyrfa i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Law yn llaw, fe wnaethant helpu sefydlu ac arloesi’r sîn hip-hop yng Nghymru, gydag Eric Martin hefyd yn serennu yn fyd-eang wrth iddo gydysgrifennu’r gân Pump Up the Jam!
Dywedodd Martin: “I feel blessed to have been part of a young, vibrant hip-hop scene in Wales”. Ychwanegodd DJ Jaffa: “To see so many artists from boom-bap to drill to all forms of hip-hop morph into something beautiful warms my heart ... I love to see Black music in Wales. This is our year.”
Gwobr Triskel
Mae gwobr Triskel hefyd yn cael ei gyflwyno’n flynyddol gyda chefnogaeth yr elusen Help Musicians er mwyn helpu artistiaid i esgyn i’r lefel nesaf yn eu gyrfaoedd. Eleni, Adjua, WRKhouse a Voya a ddaeth i’r brig. Dyma dri grŵp o artistiaid â seiniau gwbl newydd a chyffrous gyda phob un a’u sain a’u steil unigryw eu hun - o R&B i Electronica i Alt-pop.
Mae buddugoliaeth Lemfreck, llwyddiant enillwyr Gwobr Triskel a safon aruthrol o uchel y rhestr fer yn sicr yn cynnig dyfodol cyffrous a blaengar i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru!

