Wrth i’r dydd fyrhau ac wrth i’r tywydd oeri, mae’r Nadolig yn wir yn agosáu. Gyda dim ond ychydig wythnosau’n unig nes y byddwn ni fyfyrwyr yn ymadael â’r ddinas ac yn swatio adref dros gyfnod yr ŵyl, beth sydd gan Gaerdydd i’w gynnig i’n trochi gydag ysbryd y Nadolig?

Un o’r llefydd mwyaf amlwg i ymweld os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny’n barod yw Gŵyl y Gaeaf (‘Winter Wonderland’).

O dir Castell Caerdydd, i lawntiau Neuadd y Ddinas, i Barc Bute mae Gŵyl y Gaeaf at ddant unrhyw un.

Beth am sglefrio dan do ar dir y Castell neu fentro i’r ffair ar lawntiau Neuadd y Ddinas? Llwglyd a sychedig?

Nid oes angen gofidio gan fod bar y caban sgïo alpaidd, Sur la Piste ac ystod eang o stondinau bwyd Nadoligaidd.

Wedi iddi dywyllu, mae Llwybr Goleuadau Parc Bute hefyd yn gyfle perffaith i weld y Ddinas yn ei holl ogoniant.

Am fwy o wybodaeth ac am yr amseroedd: www.croesocaerdydd.com/nadolig

Os ydych chi awydd newid o brysurdeb y ddinas dros y penwythnos, beth am ymweld â Phontcanna?

Pob dydd Sadwrn a Sul hyd at y 21ain o Ragfyr bydd ‘Kings Road Yard’ dan ei sang gyda stondinau amrywiol i chi gael y blaen ar eich siopau Nadolig a digon o fwyd a diod Nadoligaidd i fynd â’ch bryd.

Heb os, dyma un o’r llefydd fwyaf delfrydol i fwynhau ysbryd yr ŵyl.

Lleoliad: Kings Road Yard, 183A Kings Road, Caerdydd, CF11 9D7.

Pa bryd: Pob dydd Sadwrn 10yb-2yp, pob dydd Sul 10yb-4yp.

Mwy o wybodaeth: @pontcannamarket (instagram).

Bydd Eglwys Dewi Sant, Caerdydd yn cael ei swyno gan leisiau aelodau Aelwyd y Waun Ddyfal ddechrau mis Rhagfyr.

Yng nghwmni Brigyn, bydd yr aelwyd yn perfformio eu cyngerdd Nadolig a bydd yn gyfle hyfryd i ddechrau dathliadau’r ŵyl.

Mae’r drysau ar agor i unrhyw un a bydd yr arian a godwyd yn cael ei roi i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dewch yn llu!

Lleoliad: Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, CF10 3DD.

Pa bryd: Nos Wener, 5ed o Ragfyr am 7:30yh.

Pris: Ticed oedolyn - £10, ticed plentyn - £7.

Mis Tachwedd llynedd roedd sinemâu ledled Caerdydd yn orlawn wrth i’r seddi gael eu llenwi gan y sawl oedd yn awyddus i wylio’r ffilm fyd-enwog, Wicked.

Blwyddyn yn ddiweddarach ac wedi mawr aros, mae hi bellach yn amser i’r ail ran gael ei ryddhau.

Felly, mae’n amser i chi fachu eich ticedi a’ch hoff ddanteithion yn barod ar gyfer ymgolli yn niweddglo dramatig y cymeriadau hoffus, Elphaba a Glinda.

Os ydych chi awydd noson gysurus gyda chwmni da a chuddio rhag ysbryd yr ŵyl am ysbaid, y sinema yw’r lle i chi.

Am fwy o wybodaeth am leoliadau ac amseroedd: www.odeon.co.uk, www.cineworld.co.uk, www.everymancinema.com.