Ar ôl degawd o doriadau cyllid ar y sector diwylliant, mae cyhoeddiad diweddar Prifysgol Caerdydd wedi dod fel ergyd arall i’r celfyddydau yng Nghymru. Cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn ystyried terfynu pynciau fel cerddoriaeth oherwydd problemau ariannol, sy’n awgrymu bod y celfyddydau yng Nghymru, unwaith yn rhagor, yn cael eu tanbrisio.

Mae adroddiad diweddar gan un o bwyllgorau’r Senedd wedi cyflwyno rhybudd clir am effeithiau hirdymor toriadau ariannol parhaus ar y sectorau diwylliant yng Nghymru. Yn ôl yr adroddiad hwnnw, a lansiwyd ar y 9fed o Ionawr, mae Cymru ar ei hôl hi yn sylweddol y tu ôl i genhedloedd eraill Ewrop o ran gwariant cyhoeddus ar wasanaethau diwylliannol. Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor: “Heb newidiadau sylweddol, mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl o ran llwyddiant ym meysydd diwylliant”

Yn ôl Miranda Ballin o elusen Plant y Cymoedd: “Mae gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau yn effeithio ar ein hartistiaid lleol, ein cymuned lawrydd a’r bobl sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau. Ategodd Nia Wyn Evans o theatr gymunedol Arad Goch a Lisa Davies, Prif Weithredwr Tanio bod costau cynyddol a llai o gyllid yn ei gwneud hi’n anoddach dod â theatr i blant a phobl ifanc. Pwysleisiodd y tair bod toriadau cyllidebol yn cyfyngu ar y gallu i gyrraedd cymunedau difreintiedig, ac yn torri cyfleoedd llawrydd i artistiaid. Mae’r celfyddydau yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol, felly, mae’r adroddiad yn galw ar Llywodraeth Cymru i ariannu’r sector hwn er mwyn sicrhau dyfodol y celfyddydau yng Nghymru.

Mewn ymateb i’r heriau mae Cymru yn ei hwynebu, mae’r actor Cymreig Michael Sheen wedi cyhoeddi lansiad theatr genedlaethol newydd yng Nghymru sef ‘The Welsh National Theatre’ gyda’r nod o ddangos dramâu sy’n tynnu sylw at straeon o Gymru. Daw’r fenter hon yn sgil diddymu National Theatre Wales, a gaeodd ym mis Rhagfyr llynedd ar ôl colli cyllid o 1.6 miliwn o bunnoedd gan Gyngor y Celfyddydau. Ond yn ôl Heledd Fychan, AS Plaid Cymru, dyletswydd Llywodraeth Cymru yw cynnal sefydliadau diwylliannol sy’n “arddangos creadigrwydd, talent a hunaniaeth Cymru”. Dywedodd: “Ni ddylai Michael Sheen orfod gwneud gwaith Llywodraeth Lafur Cymru ar ariannu Theatr Genedlaethol cyfrwng-Saesneg newydd i Gymru”. Cred Heledd Fychan bod anallu’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Diwylliant i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa yn bryderus.

Er hyn, mae mentrau fel cwmni theatr newydd Michael Sheen yn cynnig llygedyn o obaith, ond mae’r sefyllfa yn pwysleisio’r angen am strategaeth gan y llywodraeth i gefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru. Heb ymdrechion o’r fath, mae pryder y gallai dyfodol y celfyddydau yng Nghymru fod mewn perygl, gan arwain at ddirywiad yn allbwn creadigol y genedl a cholli hunaniaeth gwlad y gân.