Ar y 6ed o Hydref, cafodd Hanner Marathon Caerdydd ei chynnal gyda’r nifer fwyaf erioed o redwyr, gan ddenu dros 29,000 o bobl o bob cwr o’r byd i gymryd rhan.
Diwrnodau ar ôl cyflawni’r ras eleni, mae rhedwyr eisioes yn barod yn paratoi ar gyfer y ras flwyddyn nesaf, gyda’r holl lefydd cyffredinol wedi’u llenwi o fewn y 12 awr gyntaf o fynd ar werth.
Agorodd y cofrestru ar y 9fed o Hydref, ac roedd y galw am le yn y ras yn ddigynsail.
Hawliwyd tocynnau ‘early bird’ ac ail ryddhad mewn ychydig dros awr, yn hwyrach wedyn llenwyd yr holl leoedd mynediad cyffredinol.
Gyda phob lle wedi’i werthu mor gyflym, yr unig ffordd i redwyr gymryd rhan yn y digwyddiad flwyddyn nesaf yw drwy gynrychioli elusen neu ymuno â phecyn her busnes.
Wrth siarad gyda Taf-od, dwedodd Luned Jones, 20, a redodd y ras: “Rwy’n credu bod e’n ddigwyddiad mor boblogaidd oherwydd mae’n siawns i bobl mynd allan o’i ‘comfort zone’. Yn ogystal, mae’n siawns i bobl gwblhau gôl a chodi nifer o arian ag sy’n bosib i elusennau”.
Hanes y ras
Sefydlwyd Hanner Marathon Caerdydd yn 2003 gan elusen Barnado’s ac fe gymerodd 1,500 o redwyr ran yn y ras.
Mae’r digwyddiad bellch yn denu degau o filoedd i gymryd rhan, gan gynnwys athletwyr o safon fyd-eang.
Erbyn hyn mae wedi tyfu i fod yr hanner marathon fwyaf poblogaidd yn Ewrop a digwyddiad elusennol mwyaf Cymru, gyda dros £3 miliwn yn cael ei godi bob blwyddyn.
Dyma un o’r rhesymau pam benderfynodd Luned Jones redeg y ras. Dywedodd; “Roeddwn ‘di cael fy ysbrydoli gan fy nhad-cu. Mae e wastad di bod yn fodel rôl i mi gan roedd e arfer gwneud llawer o chwaraeon pan oeddwn i’n ifanc. Mae nawr yn dioddef o ddementia felly roeddwn i eisiau codi arian i’r afiechyd yma.”
Llwyddodd Luned i godi £645 i’r elusen.
Mae’r cwrs yn mynd heibio holl olygfeydd mwyaf trawiadol ac eiconig y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Principality, Canolfan y Mileniwm, y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd
SuperHalfs
Mae Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o’r gyfres SuperHalf’s sef sialens o gyflawni 6 hanner marathon yn y dinasoedd Lisbon, Prague, Berlin, Copenhagen, Caerdydd a Valencia o fewn 60 mis.
Mae disgwyl bod dros 60,000 o redwyr yn cymryd rhan yn y her hon.
“Roeddwn i mor browd”
Wrth groesi’r llinell derfyn, disgrifiodd Luned iddi fod yn deimlad “anhygoel” – “Roeddwn i’n teimlo’n falch o ba mor bell roeddwn i wedi dod, nid yn unig yn y ras, ond trwy’r misoedd o hyfforddi. Roedd gweld y llinell derfyn wedi rhoi llawer o egni i mi, ac wrth imi ei chroesi, roeddwn yn llawn hapusrwydd. Roedd yn foment roeddwn i wedi gweithio mor galed ar ei chyfer! Roeddwn i mor browd.”

