Dros 20 mlynedd yn ôl, roedd Rhodri Jones yn serennu mewn rhaglen S4C, erbyn hyn mae’n hyfforddi meddyliau “pobl sy’n creu pethau mawr yn y byd”. Yn 1996 ymunodd Rhodri Jones gyda chlwb Pêl-droed Manchester United. Roedd y bachgen o Gaerdydd wedi symud i ymuno gydag academi’r clwb, symudiad oedd yn “profiad anhygoel” yn ôl Rhodri ar bodlediad newydd ‘Pen yn y Gêm’.
Roedd yn rhaid i Rhodri symud o adref yn ifanc, profiad a oedd yn ei orfodi “i dyfu i fyny yn gyflym”. Er bod Rhodri ym Manceinion, roedd sylw a chefnogaeth Cymru ganddo ar ôl i gamerâu S4C ei ddilyn mewn rhaglen ddogfen “Giggs, Rhodri a Beckham”. “Roedd y rhaglen ddogfen yn dilyn fi yn fy trydydd tymor yn Man U” eglurodd Rhodri. Aeth ymlaen i sôn pam roedd amseru’r rhaglen o bosib yn anffodus. “Na’th y rhaglen cael ei ddarlledu dros Nadolig, a t’mod roedd y cynnwys i gyd yn eithaf positif, a wedyn ges i fy rhyddhau gan Man United, gan Syr Alex, ym mis Chwefror neu mis Mawrth”. “Rhan o fi ar y pryd yn meddwl ‘O’dd hwnna ddim yn help’” Fe wnaeth y ddogfen ei wneud yn anoddach iddo ddod adref, yn ei lenwi gyda theimladau “embarrassing, [yn enwedig] gyda ffrindiau fi ”.
Wrth adael Manchester United, mynegodd Rhodri “doedd dim” ar gael o ran cymorth iddo, ond roedd yn benodol bod hyn “ddim yn beirniadaeth o’r clwb, ond efallai’r cyfnod”. “[Doedd neb] yn sylweddoli faint mor bwysig yw mindset o rhan perfformiad a hefyd o ran siomedigaethau” medd Rhodri. Roedd meddylfryd penderfynol ac uchelgeisiol Rhodri yn rhoi llawer o bwysau arno, a chymerwyd ergyd mawr pan gafodd ei ollwng o Man U. “Fi ‘di dysgu lot ohono fe, ond ‘odd e’n cyfnod caled” eglurodd. “Mae cael dy ryddhau gan Syr Alex yn ddigon o siom”. Erbyn hyn mae Rhodri yn rhedeg busnes hyfforddi meddyliol ei hun, lle mae’n gweithio gydag amryw o bobl i weithio ar eu meddylfryd er mwyn creu unigolion penderfynol, creadigol a hyderus. “Mae beth i fi ’n gwneud ddim yn therapi” eglurodd, “Fi’n gweithio gyda pobl busnes, actorion.
Pobl sy’n creu pethau mawr yn y byd”. Mae Rhodri hefyd wedi gweithio gydag ymgyrch ‘Amser i Newid Cymru’, ymgyrch ariannir gan Lywodraeth Cymru i “rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl yng Nghymru” yn ôl eu gwefan. Mynnai Rhodri fod hi’n “bwysig codi ymwybyddiaeth” am iechyd meddwl, ac mai dyma yw amcan ei waith gyda’r ymgyrch.
Mae’r cyfweliad llawn ar gael rhwng Rhodri Jones a Jack Thomas ar sianeli’r podlediad ‘Pen yn y Gêm’, podlediad sy’n trafod chwaraeon ac iechyd meddwl/meddylfryd.

