I lawer o fyfyrwyr, mae’r Gaeaf yn gyfnod heriol. Mae’r tywydd oer, dyddiau tywyll a phwysau academaidd yn aml yn arwain at straen, blinder ac iselder. Yn ôl Young Minds UK, mae nosweithiau a boreau tywyll yn ei gwneud hi’n anodd i fyfyrwyr fod yn gynhyrchiol ac, i rai, mae’r tasgau lleiaf yn teimlo’n heriol.

Wrth i’r dyddiau fyrhau, mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod agwedd gadarnhaol tuag at y Gaeaf yn gallu helpu pobl i ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.

Ar y 29ain o Hydref, cyhoeddodd elusen iechyd meddwl Mind adroddiad newydd o’r enw ‘Young people are falling through the gaps - Making care before crisis a reality’. Dywedodd Jemima Olchawski, Cyfarwyddwr Effaith Gymdeithasol yr elusen Mind: “The nation is facing a mental health crisis with Young people bearing the brunt”.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod pobl ifanc yn aml yn methu cael y cymorth sydd ei hangen arnynt cyn cyrraedd pwynt argyfwng.

Mewn ymateb i hyn, dywedodd Sarah Murphy, Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru: “Gall ymyrraeth gynnar atal pobl ifanc rhag cyrraedd pwynt argyfwng o ran eu hiechyd meddwl.” Wrth ymweld â chanolfan ieuenctid ‘The Hangout’ yn Barri, pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd cefnogaeth i bobl ifanc a mynediad ar unwaith i’r adnoddau sydd ei hangen arnynt.

Mae’n glir bod myfyrwyr ymhlith y rheiny sydd yn dioddef yn ystod y gaeaf.

Er nad yw’n ymateb uniongyrchol i’r adroddiad sydd dan sylw, sylwodd pwyllgor Undeb myfyrwyr Cymraeg Caerdydd ar yr angen am fwy o weithgareddau cymdeithasol.

O ganlyniad, penderfynodd y pwyllgor sefydlu clwb rhedeg newydd o’r enw “Nerth Dy Draed” gyda thua 20 o fyfyrwyr yn mynychu’r sesiwn gyntaf. Mae’r clwb yn cynnig modd o gymdeithasu heb alcohol, sy’n aml yn ffactor mawr mewn digwyddiadau prifysgol ac mae’n annog myfyrwyr i ddod ynghyd, rhedeg, sgwrsio, symud a gadael y tŷ yn ystod misoedd tywyll y gaeaf.

Dywedodd Gwenno, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn sy’n rhan o’r clwb newydd: “Mae’n brofiad hyfryd bod yn rhan o’r clwb rhedeg, ma’ fe’n rhywbeth rili neis i wneud ar fore Sadwrn. Fi’n bendant yn meddwl bod digwyddiadau cymdeithasol fel hyn yn bwysig iawn i iechyd meddwl myfyrwyr.”

Ategodd hi: “Nath mynd i’r clwb rhedeg godi fy nghalon i achos ma’ mis Tachwedd yn fis tywyll, diflas gyda lot o asesiadau ‘mlan. Ond, ‘odd y sesiwn yn seibiant braf i dynnu’r meddwl bant o’r gwaith a chael ‘chydig o awyr iach. ‘Odd e mor braf gallu cymdeithasu gyda phobl wahanol mewn ffordd wahanol ‘o’n i heb wneud o’r blaen.”

“Byddwn i’n bendant yn dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried ymuno i beidio meddwl dwywaith, ymunwch! Mae naws mor gyfeillgar yna, does dim ots os chi heb arfer rhedeg. Ni’n mynd ar gyflymder digon hamddenol i bawb, ac mae’n naws croesawgar iawn. Byddwch chi ddim yn difaru.” meddai Gwenno.

Wrth i’r gaeaf fynd yn ei flaen, mae ‘Nerth dy Draed’ yn mynd o nerth i nerth ac yn dangos bod modd i fyfyrwyr gymryd camau bach i ofalu am eu llesiant.