Yn flynyddol mae Clybiau ffermwyr ifanc Cymru yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau Eisteddfodol megis canu, llefaru, sgets a meim! Cafodd yr Eisteddfod ei gynnal eleni yn Ysgol Bro Myrddin yn Sir Gaerfyrddin ar ddydd Sadwrn yr ail o Dachwedd. Gwelwyd amrywiaeth o dalent Cymru yn dod ynghyd i ddod i’r brig yn eu categorïau amrywiol.
Mae’r Eisteddfod wedi ei rhannu mewn i ddau brif adran sef cystadlaethau’r llwyfan a chystadlaethau’r Gwaith Cartref. Ar ddiwedd yr holl gystadlu bydd yr holl bwyntiau yn cael eu cyfri a bydd modd gweld pa sir wnaeth orau ar draws y gystadleuaeth gyfan.
Buddugolwyr Eleni:
1af: Ceredigion
2ail: Sir Gâr
3ydd: Sir Benfro
Eleni, y Sir fuddugol oedd Ceredigion gyda chyfanswm o 47 o bwyntiau. Ar lwyfan, gwnaeth Ceredigion bachu 34 o bwyntiau ynghyd a 13 o bwyntiau yn y categori Gwaith Cartref. Fe wnaeth 12 o siroedd gystadlu i gyd er mwyn ceisio dod i’r brig.
Dyma rhai o ganlyniadau’r diwrnod ar lwyfan:
Deuawd
1af: Ffion ac Esyllt (Sir Benfro)
2ail: Beca a Cadi (Ceredigion)
3ydd: Lleucu a Cadi (Meirionnydd)
Côr Cymysg
1af: Sir Gâr
2ail: Sir Benfro
3ydd: Ceredigion
Parti Llefaru
1af: Llanwenog (Ceredigion)
2ail: Glannau Tegid (Meirionnydd)
3ydd: Abergwaun (Sir Benfro)
Adran Ysgafn: Sgets
1af: Pontsian (Ceredigion)
2ail: Llannefydd (Clwyd)
3ydd: Llanllwni (Sir Gâr)
Meim
1af: Bro Ddyfi (Maldwyn)
2ail: Penparc (Ceredigion)
3ydd: Llanllwni (Sîr Gâr)
Deuawd/Triawd Ddoniol
1af: Tomos, Llywelyn a Dafydd (Ceredigion)
2ail: Ifor, Hefin a Siriol (Sir Gâr)
3ydd: Rhys, Rhys a Iolo (Sir Benfro)
Ble i wylio?
Cafodd yr Eisteddfod ei ddarlledu ar Sianel Pedwar Cymru, gan roi cyfle i’r rheini nad oedd yn gallu mynychu, i wylio rhwng 3 a 5 o’r gloch yr hwyr ac yna rhwng 7:30 a 11:30 yr hwyr. Yn ogystal gellir ail-wylio’r cystadlu ar BBC iPlayer neu S4C Clic.
Mae hefyd lluniau a chlipiau ar gael ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C a ‘cfficymruwalesyfc’.
Cyd-destun
Mae Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn Eisteddfod ddwyieithog, yr unig un o’i fath yng Nghymru! Mae hwn yn rhoi cyfle i aelodau o glybiau cystadlu mewn nifer o’r categorïau. Caiff yr Eisteddfod ei gynnal mewn sir wahanol bob blwyddyn gan gyfnewid rhwng y Gogledd a’r De bob yn ail flwyddyn. Hyd at heddiw, mae’r Eisteddfod wedi cael ei gynnal mewn amrywiaeth o leoliadau fel Neuadd Bryngwyn yn Abertawe, Neuadd William Aston yn Wrecsam a Venue Cymru yn Llandudno.
