Dechrau tymor prifysgol. Merched yn y lolfa, cwpaned o de yn barod, pyjamas ymlaen. Un peth amdani - RuPaul’s Drag Race UK. Fy nhro cyntaf i’n gwylio, ac mae’n rhaid i mi ddweud, ‘nes i garu POB eiliad! Y drag queen o Gymru, Catrin Feelings, yn cerdded i mewn ac yn hawlio’r sgrin, yn llawn sbarcls...o Rhondda i’r Runway!

Felly, mae RuPaul’s Drag Race UK yn ôl! I’r rheiny ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd, mae’r rhaglen hon yn gystadleuaeth rhwng drag queens o bob cwr o’r Deyrnas Unedig. Bob wythnos, maen nhw’n cystadlu mewn heriau gwahanol yn y gobaith o ennill teitl seren Drag nesaf y Deyrnas Unedig ar ddiwedd y gyfres.

Ond eleni, mae ‘na reswm arbennig i ni yng Nghymru (yn enwedig i ni yma ym Mhrifysgol Caerdydd) i wylio oherwydd am y tro cyntaf erioed, mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Elis Lloyd Jones, neu fel mae’r byd drag yn ei hadnabod, Catrin Feelings, yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan drag mwyaf posib.

Yn 27 oed ac yn dod o Dreorci yn y Rhondda, mae Catrin yn dod â’r Gymraeg, ei hi wmor naturiol ac ysbryd y cymoedd i’r gystadleuaeth. Wrth ymddangos ar y rhaglen, mae Catrin yn ymfalchïo yn ei hunaniaeth Gymraeg ac yn defnyddio’r iaith yn naturiol ar y rhaglen - rhywbeth prin iawn sydd i’w weld ar deledu prif ffrwd Prydain. I lawer o wylwyr Cymraeg, roedd gweld a chlywed y Gymraeg gan Catrin yn foment o falchder pur. Mae’n dangos yn glir fod drag queens o Gymru nid yn unig yn haeddu eu lle ar y llwyfan rhyngwladol, ond eu bod yn dod ag elfen unigryw o’n diwylliant, iaith ac ysbryd i gynulleidfa’r Deyrnas Unedig; a phwy feddyliai y byddwn yn gweld clocsio ar RuPaul’s Drag Race?!

Mae Catrin yn dilyn ôl troed queens Cymreig eraill fel Actavia, Marmalade, Victoria Scone,Tayce, The Vivienne ond mae ei hunaniaeth o’r Rhondda, ei hiwmor a’i defnydd cyson o’r Gymraeg yn gosod naws hollol newydd i’r gyfres eleni.

Felly, i chi fyfyrwyr sydd yn ysu am rywbeth i wylio wedi noson fawr yn YOLO, trowch y teledu ymlaen ar nos Iau a mwynhewch!