Efa Ceiri - Pennaeth Taf-Od
Efa Ceiri ‘dwi ac rwyf yn wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf yn edrych ymlaen yn arw i gyd-weithio gyda criw talentog Taf-od eleni i hyrwyddo newyddion o bob math i chi’r darllenwyr. Bydd pob rhifyn yn cynnig straeon gwahanol sydd yn berthnasol i Gaerdydd, yn ogystal ag o amgylch y byd. Braint yw cael bod yn bennaeth ar adran cyfrwng y Gymraeg Gair Rhydd. Os oes diddordeb mewn ysgrifennu erthygl unrhyw bryd, mae wastad croeso i chi gysylltu. Dyma gyflwyno criw Taf-Od 2023/24:
Beca Dalis - Golygydd Taf-Od
Mae ein golygydd Beca hefyd yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth yn ei thrydedd flwyddyn. Hoff glwb Beca yng Nghaerdydd yw Clwb Ifor Bach ac ei hoff gan Cymraeg yw Pulo - Thallo
Millie Stacey - Golygydd Taf-Od
Mae Millie yn astudio Newyddiaduraeth a chyfathrebu, hefyd yn ei thrydedd flwyddyn.
Clwb Ifor Bach yw ei hoff chlwb yng Nghaerdydd a Rhedeg i Baris gan Candelas yw ei hoff chan Cymraeg.
Llyr Eirug - Golygydd Taf-Od
Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Llyr bellach yn ei ail flwyddyn yma yng Nghaerdydd yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Fel mwyafrif o’r criw, mae Llyr hefyd yn hoff o dreulio ei amser yng Nghlwb Ifor Bach ac ei hoff gan Cymraeg yw Nefoedd gan Swci Bocsawen.
Jack Thomas- Golygydd Taf-Od
Mae Jack yn ei ail flwyddyn ac yn dilyn cwrs Cyfryngau a Chyfathrebu. Yn wahanol i’r gweddill, Live Lounge yw hoff glwb Jack yng Nghaerdydd ac Y Cwm gan yr enwog Huw Chiswell yw ei hoff gan Cymraeg.
Ffion Wyn Jones - Golygydd Taf-Od
Mae ein golygydd Ffion hefyd yn ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Fel Jack, mae Ffion hefyd yn mwynhau nosweithiau allan yn Live Lounge ac yn mwynhau gwrando ar Y Bandana, yn enwedig Siwgr Candi Mel.
Alys-Mai Walters - Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol
Alys-Mai Walters o Landybie yw rheolwr cyfryngau cymdeithasol tafod eleni. Mae Alys yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ac yn mwynhau treulio amser yn y clwb Proud Mary’s. Nos Sul a Banglan Bay yw hoff gan Cymraeg Alys. Cofiwch gadw llygaid allan ar ein cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau!
Mwynhewch y darllen!
