Mae digonedd o draddodiadau Nadoligaidd gennym ni’r Cymry heddiw- o ymweld â ffrindiau a theulu dros yr ŵyl, i addurno coed Nadolig, i adael gwydrau o laeth allan i Siôn Corn. Roedd Cymry’r gorffennol, hefyd, yn hoff iawn o gadw at draddodiadau penodol- rhai ohonynt yn hyfryd, ac eraill yn hollol ryfedd!
Plygain
Un o draddodiadau allweddol Cymry’r 19eg ganrif oedd mynychu gwasanaeth ‘Plygain’ rhwng 3 a 6 ar fore’r Nadolig. Yn y gwasanaethau hyn, byddai dynion yn canu carolau’n ddigyfeiliant yng Nghapel y plwyf lleol er mwyn dathlu bod y Nadolig wedi dod. Mae’r traddodiad hwn yn dal i barhau hyd heddiw mewn sawl ardal o Gymru.
Noson Gyflaith
Er mwyn aros yn effro nes ei bod hi’n amser mynychu’r gwasanaeth ‘Plygain’ ar fore’r Nadolig, un o weithgareddau’r Cymry oedd cynnal Noson Gyflaith. Byddai teuluoedd yn gwahodd ffrindiau a theulu draw i chwarae gemau, adrodd straeon, a chreu taffi. Mae’r traddodiad yma’n dal i fodoli mewn rhai mannau o Gymru, ac, mewn rhai lleoliadau hanesyddol o amgylch y wlad caiff twristiaid wneud eu taffi eu hunain er mwyn cael blas o’r traddodiad hwn.
Dydd San Steffan
Dathlwyd y diwrnod ar ôl y Nadolig mewn ffordd annifyr dros ben ar ddechrau’r 19eg ganrif yng Nghymru, gyda’r traddodiad o ‘guro celyn,’ neu ‘holming’ yn Saesneg. Byddai dynion ifanc yn casglu canghennau celyn, a’u defnyddio i guro breichiau, neu goesau merched ifanc, nes gwneud iddynt waedu. Mewn rhai ardaloedd, nid y merched, ond y person olaf i godi o’r gwely yn y bore oedd yr un anlwcus i gael ei guro. Poenus tu hwnt!
Mari Lwyd
Penglog ceffyl oedd y Fari Lwyd, wedi’i haddurno â rhubanau, clychau, a phapur, a’i gosod ar ben polyn pren. Byddai grŵp o Gymry’r 19eg ganrif yna’n cario’r ceffyl o ddrws i ddrws wrth herio’r trigolion i frwydr odl a phennill, o’r enw pwnco. Gobaith y ddefod anarferol yma oedd dod â lwc i’r flwyddyn newydd.
Calennig
Ar fore Ddydd Calan ar ddechrau’r 19eg ganrif, ai plant Cymru o ddrws i ddrws yn canu er mwyn derbyn ‘Calennig’ (arian neu losin) yn wobr. Ystyr y gair ‘Calennig’ yw ‘dydd cyntaf y mis,’ ond, gall hefyd olygu dathliad Flwyddyn Newydd, neu wobr Flwyddyn Newydd. Yng Nghwm Gwaun yn Sir Benfro, cynhelir y dathliad hwn ar y 13eg o Ionawr bob blwyddyn, am iddynt ddefnyddio’r calendr Julianaidd, yn hytrach na’r un Georgaidd.
