Fel y gwelsom gyda Chwedl Gelert yn y rhifyn diwethaf, mae gwreiddiau ein chwedlau wedi wedi datblygu ac addasu dros amser. Y tro hwn, mae’n bryd i ni droi ein sylw at chwedl rwy’n siŵr i chi ei chlywed o’r blaen - Cantre’r Gwaelod, gan ystyried y cwestiynau, o le ddaw’r chwedl yn wreiddiol, a faint o wirionedd sydd tu ôl iddi?
Mae’r chwedl yma wedi’i seilio miloedd o flynyddoedd yn ôl ym Mae Ceredigion, fel rydym yn ei adnabod heddiw.
Clywn stori Cantre’r Gwaelod yn wreiddiol yn Llyfr Du Caerfyrddin, a ddaw o’r 13eg Ganrif, ble caiff y lleoliad ei alw yn Maes Gwyddno.
Mae’r stori wreiddiol yn dweud bod y maes wedi gorlifo ar ôl i forwyn o’r enw Mererid, a oedd i fod i edrych ar ôl ffynnon ddŵr, adael ei dyletswydd – a arweiniodd at y ffynnon yn gorlifo a boddi’r pentref!
Erbyn hyn fodd bynnag, mae’r chwedl fel rydym yn ei hadnabod yn wahanol.
Mae’r fersiwn hon o’r stori (o’r 17eg ganrif) yn sôn am deyrnas Cantre’r Gwaelod ym Mae Ceredigion oedd yn cael ei diogelu gan lifddorau i amddiffyn y pentref rhag y môr. Cafodd ei boddi ar ôl i’r tywysog Seithenyn, sy’n cael ei ddisgrifio fel meddwyn mewn rhai fersiynau o’r chwedl, gwympo i gysgu ar ôl yfed gormod, pan oedd i fod i edrych ar ôl y llifddorau a sicrhau eu bod ar gau. Daeth y môr trwy’r llifddorau a boddi’r deyrnas, gyda’r gwarchodluoedd yn canu’r clychau er mwyn rhybuddio’r bobl, fod y lle yn boddi o dan y môr.
Yn ôl y sôn, gallwch glywed clychau Cantre’r Gwaelod yn canu o dan y môr pan fo perygl yn agos!
Mae’r stori wedi cael ei chymharu ag Atlantis dros y blynyddoedd, gyda llawer yn galw Cantre’r Gwaelod yn Atlantis Cymru.
Ond y cwestiwn yw, ydy’r stori yn wir?
Mae rhywfaint o dystiolaeth wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd am ardrefniant yn ardal Bae Ceredigion, gydag adroddiadau mor bell yn ôl a 1770.
Mae tystiolaeth ddynol i weld hefyd, gydag olion llwybrau cerdded pren, ôl troed sydd wedi caledu mewn mawn, a hefyd carreg hen aelwyd.
Felly, mae’n bosib bod elfen o wirionedd i’r chwedl, ond mae’n anodd gwybod pa mor wir yw’r fersiwn rydym yn gyfarwydd â hi.
