Cyhoeddwyd yn ôl ym mis Medi y bydd y grŵp pop ‘Take That’ yn dychwelyd yn ôl i Gymru i berfformio yn rhan o’u taith fyw newydd: ‘That’s Life On Tour’, yn 2024. Dyma fydd y tro cyntaf i’r grŵp o dri perfformio yng Nghymru ers eu taith ddiwethaf ‘Wonderland’, yn 2017. Mae’r triawd – Gary Barlow, Mark Owen a Howard Donald - wedi cyhoeddi eu bod yn chwarae dros bedwar deg dyddiad ar draws pymtheg o ddinas y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Ond un ddinas allan o bymtheg y daith, sydd yn cael ei gynnal yng Nghymru. Bydd stadiwm ‘Swansea.com’ yn ddinas Abertawe, yn cartrefu eu perfformiad ar y 6ed o Fehefin, 2024.
Wrth i’r band rhyddhau eu sengl newydd, ‘Windows’, fe gafodd newyddion o’u taith ei hysbysu am y tro cyntaf yn rhan o drafodaeth y grŵp gyda Zoe Ball ar ei sioe frecwast ar BBC Radio 2. Dyma brif ganwyr y grŵp, Gary Barlow, yn dweud ar y rhaglen: “Mae wedi bod yn brofiad gwych bod yn ôl yn y stiwdio gyda’n gilydd yn cynllunio a recordio’r albwm hon.” Aeth aelodau arall y grŵp ymlaen i ddweud: “Da ni’n hynod falch o’r albwm newydd - mae ‘na ymdeimlad o agosatrwydd, boed ni’n dod yn ôl at ein gilydd fel band neu rhwng y bobl sydd eisiau cysylltiad yn fywydau eu hunain. Rydyn ni’n gyffrous am y bennod newydd hon!”.
Buodd digon o gyffro a dyfalu ymysg pobl yn digwydd cyn cyhoeddiad swyddogol y daith, wrth i symbol nodweddiadol y band yn cael eu hysbysu ar feysydd ar draws y Deyrnas Unedig. Nawr bod y newyddion o’r daith wedi’u cyhoeddi’n swyddogol, rydym yn gwybod bydd y canwyr yn cychwyn ar eu taith yn Sheffield ym mis Ebrill, ac yn eu gorffen ym Mhriste yng nghanol mis Mehefin. Dyma Olly Murs, canwr poblogaidd o Ddwyrain Llundain, hefyd ymuno a’r daith fel gwestai arbennig i’r grŵp.
Aeth tocynnau’r perfformiad ar werth ar ddydd Gwener, 29ain o Fedi am 9:30 yn y bore, ac yn barod mae yna alw wedi bod i gynnal sioeau ychwanegol i’r deuddeg naw perfformiad a gafodd eu cynllunio’n wreiddiol. Cafodd y rhai ag archebodd albwm newydd y grŵp o’r siop swyddogol cyn Medi’r 26ain, y cyfle i dderbyn cod arbennig i gael mynediad cynharach at y tocynnau, ar ddydd Mercher y 27ain o Fedi.
