Yn ôl ymchwil gan Greenpeace, tybir y bydd y diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am gwarter carbon y blaned erbyn 2050.
Y grŵp oedran ‘Gen Z’ sef pobl 18-25 oed sy’n siopa'r fwyaf anghynaladwy, wrth iddyn nhw siopa fwy nag unwaith yr wythnos.
Yn ôl Greenpeace cafodd Covid-19 effaith ar batrymau siopa pobl wrth i bobl sylwi fod siopa ar-lein yn hawdd ac yn hygyrch iawn.
Mae Mudiad Ffasiwn Araf yn fudiad sy’n annog pobl i siopa yn gynaliadwy ac i arafu eu patrymau siopa.
Yn rhan o’r mudiad maent yn creu blogiau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd i geisio cael pobl i ddeall effaith y diwydiant ffasiwn ar y blaned.
Mae dros 8 miliwn o Brydeinwyr yn cael gwared â dillad yn hytrach nac atgyweirio, sy’n arwain at 300,000 tunelli o garbon yn cael eu llosgi yn flynyddol.
Dywedodd mudiad WRAP fod prynu un crys-t gwyn cotwm yn cynhychu allyriannau sy’n gyfatebol i yrru 35 milltir mewn car.
Trwy gadw ac ail-wisgo dillad am 9 mis ychwanegol bydd ôl-troed carbon unigolyn yn lleihau 20-30%.
Honnodd Shania Cooper, newyddiaduwyr marchnata, fod y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar batrymau siopa Gen Z.
Dywedodd fod dylanwadwyr a hauls yn dylanwadu’r gynulledifa.
Nododd hefyd fod amrywiaeth ar-lein yn gallu cysylltu pobl a chreu cymunedau ac felly mae pobl yn prynu dillad i deimlo’n rhan o rhywbeth.
Dengys ymchwil fod Gen Z yn gwario fwy ar ddillad sy’n trendio o’i gymharu gyda’r Prydeinwr Cyffredin.
Mae Eto Eto yn frand sy’n creu bagiau o diwbiau beic wedi’i defnyddio ac yna ar y tu mewn mae deunyddiau ymbarelau a phebyll sydd wedi torri.
Yn ogystal, mae’r deunyddiau yn amrywio o bwll padlo, matras gwersylla a gweddillion ffatrïoedd, jîns denim.

Dywedodd y sylfaenydd, Sylvia Davies, ‘dwi’n casau y syniad o wastraff’.
Nododd hefyd fod dim modd cael gwared â’n gwastraff am byth, oherwydd mae’n dal i fod ar y blaned yn rhywle.
Mae Dillad a Thecstilau Cynaliadwy (SCTC) yn cynnwys elusennau, busnesau lleol, addysgwyr ac unigolion.
Maent yn cynnig ffyrdd i bobl Cymru ar sut i fod yn fwy cynaliadwy.
Mae deunydd ar hwb Llywodraeth Cymru a Gwefan SustFashWales yn cynnig camau gwyrdd i bobl.

