Wrth i Doctor Who ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed, mae'n saff dweud ei fod wedi chwarae rhan mewn cynhyrchu yng Nghymru.
Tirweddau hardd ac unigryw Cymru yw un o’r rhesymau pam mae nifer o raglenni a ffilmiau yn cyrraedd yma ar ein stepen drws. Un o'r rhai mwyaf adnabyddus yw Doctor Who. Ers 2005 mae'r gyfres ffuglen wyddonol boblogaidd wedi'i gwneud yng Nghymru, yn gyntaf gan BBC Cymru a nawr gan gwmni cynhyrchu Bad Wolf o Gaerdydd. Dewiswyd Caerdydd fel cartref Doctor Who gan y BBC yn 2004 a dechreuodd ffilmio'r flwyddyn ganlynol.
Mae’r sioe wedi creu effaith aruthrol yma yng Nghymru gydag adroddiad gan y BBC yn dangos effaith economaidd Doctor Who wedi fod yn enfawr gyda hyd at £134m mewn gwerth ychwanegol crynswth yng Nghymru, a chyfanswm cyfraniad y DU i’r economi o £256m.
Mae'r adroddiad yn canfod bod adfywio'r sioe yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn eang fel y catalydd ar gyfer buddsoddi yng nghlwstwr creadigol De Cymru a'i arbenigedd mewn cynhyrchu teledu a drama o'r radd flaenaf. Bu’r adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod pob cyfres o Doctor Who wedi cynhyrchu cyflogaeth anuniongyrchol ac ysgogedig sy'n cyfateb i 50 o swyddi fesul cyfres yng Nghymru, a 94 o swyddi o fewn y DU yn gyffredinol. Mae'r holl ddata hwn yn dangos bod Cymru bellach yn un o'r dewis gorau ar gyfer cynhyrchu ac yn gystadleuydd uchel i'r diwydiant ffilm. Mae llwyddiant Doctor Who wedi rhoi'r hyder a'r hwb i ddiwydiant cynhyrchu cymru y gallant ddarparu cynnwys o'r safon uchaf.
Rhai o’r lleoedd Cymreig enwog a ddaliwyd yn Doctor Who yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, stadiwm y Principality, amgueddfa genedlaethol Cymru, amgueddfa hanes genedlaethol sain ffagan, castell Caerdydd a llawer mwy.

