Beth wyt ti’n astudio ac o le wyt ti’n dod? Eben Pierece ‘dwi a dwi’n astudio Cymraeg
Vodka neu Gin? Vodka 100%!
Beth yw dy farn amhoblogaidd? Mae Oasis yn overrated ofnadwy!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg? Dwi’n ofnadwy o fler, ma’n sdafell i’n llanast.
Hoff albwm? Drysa- Fleur de Lys
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at wneud eleni? Mynd i Gaeredin i wylio’r rygbi
Hoff jôc? Dwi’m yn berson ffyni, sgenaim jôcs...
Sut wyt ti’n gwella hangover? Cycle diddiwedd o gysgu a bwyta
Beth oedd y ffilm ddiwethaf i ti wylio? Moana, nyts o ffilm
Hoff gân carioci? Anfonaf Angel, wasdad yn cal fi yn y feels
Pwy yw dy seleb crush? Emma Walford, no brainer!
Pwy fydd yn trafod gyda’r Taf-od wythnos nesaf? Ffion Davies

