Mae’r BBC wedi wynebu un o’i chyfnodau mwyaf heriol yn y misoedd diwethaf, gyda phwysau dwys ar ei harweinyddiaeth a’i hygrededd. Ymddiswyddodd y cyfarwyddwr cyffredinol, Tim Davie, a phennaeth newyddion y BBC, Deborah Turness ar ddechrau’r mis ar ôl i raglen Panorama gamarwain y cyhoedd ynghylch araith gan Donald Trump. Yn ogystal, mae’r sefydliad wedi wynebu beirniadaeth ychwanegol o ragfarn bosibl yn ei adroddiadau ar y rhyfel rhwng Israel a Gaza.

Mae’r tensiynau wedi cynyddu o ganlyniad i fygythiad cyfreithiol gan Donald Trump, sydd wedi bygwth erlyn y BBC am filiwn o ddoleri. Ymddiheurodd y BBC am bennod Panorama a olygodd araith Trump o’r 6ed o Ionawr 2021, mewn modd a wnaeth iddo ymddangos fel pe bai’n annog ei gefnogwyr i weithredu’n dreisgar yn ymosodiad Capitol Hill. Yn ôl Donald Trump, roedd yr araith yn cynnwys apêl i’w gefnogwyr gadw’n heddychlon.

Dechreuodd y cyfan pan anfonwyd neges at fwrdd y BBC, a oedd yn codi pryderon am ragfarn asgell-chwith mewn adroddiadau sy’n ymwneud â Donald Trump, y gwrthdaro Israel a Hamas, a materion trawsrywiol. Cafodd y neges hon ei rhannu wedyn â’r Daily Telegraph, gyda’r BBC yn cymryd wythnos lawn i roi ymateb swyddogol. Oedi a wnaeth tanio beirniadaeth a chodi cwestiynau pellach ynghylch cywirdeb golygyddol y gorfforaeth.

Mae’r helynt hwn yn codi cwestiynau newydd am sefyllfa S4C, fel darlledwr sy’n cael ei lywodraethu ac yn cael ei hariannu drwy ffi drwydded y BBC. Er bod y BBC dal i dderbyn incwm sylweddol drwy ffi drwydded arian pobl y DU, yn ogystal ag incwm masnachol, mae’r model cyllido hwn dan bwysau cynyddol. Mae nifer y bobl sy’n talu’r ffi drwydded wedi bod yn gostwng yn gyson.

O ystyried bod Siarter Frenhinol y BBC i’w hadnewyddu yn 2027, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno opsiynau ar gyfer model cyllido amgen erbyn diwedd eleni. Daw hyn ar adeg pan fo’n fwy anodd cyfiawnhau’r ffi drwydded draddodiadol, gan fod cynulleidfaoedd yn symud tuag at lwyfannau ffrydio fel Netflix, Amazon Prime a Dinsey+. O safbwynt S4C, mae’r newid hwn yn achosi pryder, os yw incwm y BBC yn parhau i ostwng, neu os fydd y llywodraeth yn penderfynu moderneiddio neu ddisodli’r ffi drwydded, gallai hyn gael effaith uniongyrchol ar ddarlledwyr Cymraeg, nad oes ganddo’r un capasiti i gynhyrchu refeniw masnachol â’r BBC.

Mae’r sefyllfa’n tanlinellu pa mor fregus yw’r berthynas ariannol rhwng y ddau gorff, ac yn codi cwestiynau am ba mor gynaliadwy yw cyllid gwasanaeth cyhoeddus yn y tymor hir. Er mai’r BBC yw’r ffynhonnell newyddion sy’n cael ei defnyddio fwyaf gan gyhoedd y Deyrnas Unedig, ar-lein ac oddi ar-lein. Mae’r sefyllfa hon wedi codi trafodaethau sy’n gallu tanseilio hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth.