Ddechrau’r flwyddyn cyhoeddodd Global Radio y byddai newidiadau sylweddol i’w gwasanaethau radio. Ymhlith y rhain oedd y penderfyniad i derfynu rhaglenni Cymraeg Capital Cymru ar y 24ain o Chwefror, a’u disodli gyda rhaglenni Saesneg.

Daw’r cyhoeddiad mewn cyfnod ble mae Llywodraeth Cymru yn anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn sgìl hyn, mae’r Aelod Seneddol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, wedi mynegi ei bryderon y gallai’r newid hwn “danseilio’r ymdrech i gyrraedd miliwn ossiaradwyr”.

Mae’r newidiadau yn rhan o strategaeth newydd Global i gynig gwasanaethau cenedlaethol yn hytrach na lleol. Yn sgìl hyn, fe fydd rhaglenni lleol a rhanbarthol Heart, Smooth a Capital yn dod i ben yn Lloegr.

Y bwriad yng Nghymru yw cyfuno rhaglenni’r gogledd a’r de i ddarlledu un rhaglen genedlaethol drwy gydol y wlad. Yn rhan o’r strategaeth, bydd stiwdio newydd yn cael ei ddatblygu yng Nghaerdydd i ddisodli’r swyddfeydd sydd eisoes yn bodoli yng Nghaerdydd a Wrecsam.

Caniateir y newidiadau yn sgìl cyflwyno’r Ddeddf Cyfryngau newydd y llynedd. Ond yn ôl Mr Gruffydd, yn ystod trafodaethau ynglŷn â phasio’r bil, awgrymodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd i Lywodraeth y DU y dylai OFCOM fod â’r pŵer i sicrhau bod darlledwyr masnachol yn cynnig darpariaeth Gymraeg. Cyhuddodd Mr Gruffydd Lywodraeth y DU o fethu’n llwyr i wneud hyn ac fe wnaeth ddatgan ei bod hi’n “ddiwrnod tywyll i ddarlledu Cymraeg”. Y mae’n galw am ddatganoli darlledu i Gymru, gan bwysleisio, “Rydym angen i benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru”.

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw am bwerau datganoledig o ganlyniad i’r bygythiad i’r Gymraeg. Mewn ymateb i gyhoeddiad Global, rhyddhaodd y mudiad ddatganiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud, “Mae’r bwriad i gael gwared ar raglenni Cymraeg Capital yn dangos nad oes diddordeb gan gwmnïau, gwleidyddion San Steffan nac Ofcom yn y Gymraeg a’n cymunedau”.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru symud ymlaen â’r cynlluniau i greu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru er mwyn i ni wneud penderfyniadau dros ein cyfryngau ein hunain”.