Ydych chi wedi bod ychydig yn nerfus am y sgyrsiau gwleidyddol dros beint yn y dafarn ar ôl Haf hir o beidio edrych ar y newyddion?

Peidiwch â phoeni, dyma’r canllaw perffaith i chi ddod i wybod beth yn union sydd wedi digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn ystod y gwyliau.

Senedd Newydd Cymru

Ym mis Mai, cafodd gwleidyddiaeth yng Nghymru ei drawsnewid yn llwyr. Daeth plaid newydd i rym yn y Senedd. Am y tro cyntaf, mae Plaid Cymru, dan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth, yn rhedeg Llywodraeth Cymru. Ond fethodd y blaid groesi’r trothwy i arwain Llywodraeth fwyafrifol mae tipyn o negydu gan y Prif Weinidog i wneud felly er mwyn pasio deddfau.

Ar yr un pryd, cafodd Llafur Cymru eu taro’n drwm gyda chanlyniadau siomedig gan ennill 9 sedd yn unig ar ôl ennill pob etholiad yng Nghymru ers dros 100 mlynedd - daeargryn gwleidyddol heb os.

Trawsnewid y Blaid Llafur yn San Steffan

Ym mis Mehefin, ymddiswyddodd Syr Keir Starmer fel Prif Weinidog Prydain, er gwaethaf ei lwyddiant yn yr etholiad cyffredinol yn 2024. Cafodd Starmer ei wthio allan o’i blaid gan ei gyd-aelodau oherwydd ei ddiffyg arweinyddiaeth, disgyblaeth a’r gwrthdaro ynglŷn â pholisïau a materion rhyngwladol o fewn y blaid. Erbyn hyn, mae Syr Keir wedi camu o’r neilltu fel Aelod Seneddol gyda’r ymgeisydd Llafur arall, Sagal Abdi-Wali yn ei olynu.

Cafodd Andy Burnham ei benodi fel Prif Weinidog Prydain ym mis Gorffennaf, er ei fod wedi trio am ei le yn Rhif 10 ddwywaith o’r blaen. Caiff ei adnabod fel ‘King of the North’, gan ddefnyddio dylanwadau o’i swydd fel Maer Manceinion ar ei bolisïau yn Rhif 10 fel prisiau costau byw, digartrefedd a newid sectorau preifat i fod yn rhai cyhoeddus.

Helynt i Reform yn y Senedd

Yn dilyn etholiad da i Reform UK ym mis Mai, ymddiswyddo oedd hanes arweinydd Reform UK yng Nghymru, Dan Thomas ym mis Medi, ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac o reoli drwy orfodaeth. Yn ôl Thomas, mae am ail-geisio am ei sedd yn y Senedd waeth pwy bynnag yw arweinydd y blaid.

Bellach, Helen Jenner sef cyn-ddirprwy arweinydd y blaid yw arweinydd Reform UK yng Nghymru. Yn ôl Jenner, mae hi’n “anrhydedd llwyr” i arwain y blaid a’i gobaith yw arwain y blaid tuag at lywodraethu yn 2030.

Yn ychwanegol, symudodd yr Aelod Seneddol Sarah Cooper-Lessad o blaid Reform i Blaid Cymru. Dywedodd Lesadd nad yw Reform o ddifrif ynglŷn â llywodraethu Cymru. Roedd gan Reform gynlluniau i’w diarddel o’u plaid beth bynnag ar ôl iddynt ddarganfod ei bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Cyflwr y Deyrnas Unedig

Ym mis Medi, cynhaliwyd cyfarfod rhwng Prif Weinidogion Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i drafod cynnal refferenda annibyniaeth yn y dair wlad. Yn dilyn y cyfarfod yng Nghaerdydd, dywedodd y dair wlad “fod amser San Steffan yn dod i ben”. Hwn yw’r tro cyntaf erioed i’r dair wlad alw am fwy o bwerau datganoledig ac annibyniaeth oddi wrth San Steffan ar yr un pryd.

Er bod Burnham yn credu fod yr Undeb ar ei orau gan wneud penderfyniadau gyda’i gilydd; mae’n dal yn agored i drafodaethau ynglŷn â datganoli pwerau ychwanegol megis plismona a chyfiawnder i Gymru.

Dyma chi felly, pigion o’r hyn sydd wedi digwydd ym Mae Caerdydd a San Steffan dros yr Haf. Rydym yng nghanol tymor yr Hydref bellach a does dim amheuaeth fod cyfnod gwleidyddol cyffrous a chythryblus ar y gorwel!