Rwy’n siŵr ein bod ni gyd wedi gweld y “trend” ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar sy’n gweld lluniau ac atgofion o’r flwyddyn 2016 yn ail ymddangos ar ein ffrwd ddegawd yn ddiweddarach. Ond i rai, mae’r atgofion o’r flwyddyn hwnnw ychydig yn fwy arbennig na’r arfer, ac efallai nad oes neb wedi teimlo hyn gymaint â chefnogwyr pêl-droed Cymru. Yr haf hudolus hwnnw yn yr Ewros yn Ffrainc bron i 10 mlynedd yn ôl yw uchafbwynt hanes diweddar bêl-droed Cymru i lawer, gyda nifer o gefnogwyr ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn dathlu’r eiliadau bythgofiadwy hynny unwaith yn rhagor.

Ond i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, mae 2026 yn flwyddyn lawer mwy arbennig i’w dathlu.

150 mlynedd yn ôl, ar yr 2il o Chwefror, 1876, cafodd Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei ffurfio yng Ngwesty’r Wynnstay Arms yn Wrecsam. Fel trydedd gymdeithas bêl-droed hynaf y byd, chwaraeodd Cymru eu gêm gyntaf fis yn ddiweddarach yn erbyn yr Alban. Colli o 4-0 oedd hanes y diwrnod hwnnw, ond bum mlynedd yn ddiweddarach, ar y 26ain o Chwefror 1881, enillodd Cymru eu gêm ryngwladol gyntaf erioed gyda buddugoliaeth o 1–0 yn erbyn Lloegr.

The Wynnstay Arms Hotel in Wrexham
Gwesty’r Wynnstay Arms yn Wrecsam, ble sefydlwyd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru 150 mlynedd yn ôlPhotograph: via Wikimedia

Ers y diwrnodau cynnar hynny, mae’r gêm wedi mynd o nerth i nerth yng Nghymru, gyda’r tîm cenedlaethol yn cyrraedd prif dwrnamaint rhyngwladol am y tro cyntaf yn 1958 wrth gystadlu yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Mae’r tîm cenedlaethol wedi cyrraedd tri phrif dwrnamaint rhyngwladol ers hynny, wrth gystadlu yn yr Ewros yn 2021, Cwpan y Byd 2022 a’r Ewros yn 2016.

Roedd haf 2016 yn arbennig am nifer o resymau, gyda’r hetiau bwced, dawnsio Joe Ledley a chiciau rhydd Gareth Bale yn rhoi lliw i’r atgofion melys.

Am y tro cyntaf ers 1958, cafodd cefnogwyr Cymru gyfle i wylio’u tîm cenedlaethol yn cystadlu mewn prif dwrnamaint rhyngwladol, ac yn erbyn pob disgwyl, yn cyrraedd y rownd gynderfynol hefyd. Dan arweinyddiaeth oes euraidd o chwaraewyr Cymreig fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ashley Williams a Joe Allen, enillodd Cymru’r grŵp ac yna curo Gwlad Belg o 3-1 yn rownd yr wyth olaf. Efallai uchafbwynt pêldroed yng Nghymru yn y 150 mlynedd diwethaf.

A historic Wales football match
Photograph: via Wikimedia

Mae gêm y menywod hefyd wedi profi cyfnod o lwyddiant hanesyddol yn ddiweddar. Cafodd Uwch Gynghrair Menywod Cymru ei sefydlu yn 2009, cynghrair sydd nawr yn dwyn yr enw Adran Premier Genero, ac mae’r datblygiad hwn wedi arwain at lwyddiant rhyngwladol i dîm menywod Cymru, gan gyrraedd uchafbwynt wrth gystadlu yn yr Ewros y llynedd yn y Swistir.

Tu hwnt i’r llwyfan rhyngwladol mae clybiau Cymru hefyd wedi profi llwyddiant dros y ganrif a hanner diwethaf, gyda Chaerdydd yn ennill cwpan yr FA ym 1927 ac Abertawe yn ennill Cwpan Cynghrair Lloegr yn 2013.

Mae’r ddau dîm hefyd wedi treulio amser yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae esgyniad dramatig Wrecsam i’r Bencampwriaeth yn codi’r cwestiwn a fydd clwb Cymreig arall yn gallu cyrraedd brig pyramid pêl-droed Lloegr unwaith eto cyn bo hir.

Mae’r 150 blynedd diwethaf wedi bod yn rhai llewyrchus iawn i Gymdeithas pêl-droed Cymru felly, gyda’r llwyddiant mwyaf yn dod yn y degawd diwethaf. Ond, gyda thîm y dynion ar fin chwarae gemau ail-gyfle am le yng Nghwpan y Byd eleni a gêm y menywod yn mynd o nerth i nerth, efallai bod y gorau eto i ddod...