Siom a dau sgandal sydd wedi achosi pryder i blaid Nigel Farage dros y ddeufis diwethaf, a’r tri o rain yn gysylltiedig â Chymru! I ddechrau, ym mis Hydref, methodd y blaid â chipio sedd Caerffili yn Senedd Cymru, sedd oeddent wedi gweithio a buddsoddi yn galed ynddi i’w hennill. Daeth yr ymgeisydd, Llŷr Powell yn ail i ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle.
Roedd 3,848 o bleidleisiau yn gwahanu’r ddau ar ddiwedd y cyfri- llawer mwy na roedd y polau piniwn yn ei ragdybio. Ym mis Tachwedd, gwelwyd unig aelod Senedd Cymru o’r blaid, Laura Anne Jones yn cael ei gwahardd am bythefnos wedi iddi wneud sylwadau amhriodol mewn grŵp Whatsapp ym mis Awst 2023. Mewn datganiad emosiynol ar lawr y Senedd ar ôl dysgu am ei gwaharddiad, dywedodd y cyn Aelod Senedd Ceidwadol a symudodd i Reform ynghynt yn 2025, fod yr archwiliad wedi cael effaith mawr ar ei hiechyd meddwl.
Ni fydd gan yr aelod dros Ddwyrain De Cymru yr hawl i gamu ar dir y Senedd na chymryd rhan mewn pleidleisiau tan iddi ddychwelyd ar y 3ydd o Ragfyr. Serch hynny, bydd hawl ganddi i weithio o’i hetholaeth. Efallai mai’r mwyaf arwyddocaol ydy bod cyn arweinydd y blaid Reform yng Nghymru, Nathan Gill, wedi ei ddedfrydu i 10.5 mlynedd o dan glo ar ôl iddo bledio’n euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo.
Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Senedd Ewrop dros y blaid UKIP yng Nghymru, bu Nathan Gill yn derbyn taliadau gan Rwsia am iddo rannu negeseuon oedd yn gefnogol o’r wlad. Credir iddo dderbyn tua £40,000 am gyfweliadau teledu ac anerchion tra’n Aelod Senedd Ewrop. Wrth ymddangos o flaen llys yr Old Bailey yn Llundain i’w ddedfrydu ddiwedd mis Tachwedd, dywedodd y farwnes, Mrs Cheema-Grubb fod gweithredoedd Gill yn “fradychiad” i ymddiriedaeth yr etholwyr.
Dywedodd Heddlu Met Llundain y bydd yr ymchwiliad yn parhau er mwyn sicrhau “a oes unrhyw unigolion eraill wedi cyflawni troseddau [o lwgr-wobrwyo].” Gydag etholiad ar y gorwel yng Nghymru, mae’r achosion yma yn codi’r cwestiwn, a fydd enw da’r blaid yn cael ei ddifrodi neu a fydd etholwyr yn parhau i droi at Reform? Un peth all fod yn sicr, mae’r blaid yn un broffesiynol erbyn hyn, yn gwbl wahanol i’r blaid UKIP a Brexit rydym wedi eu gweld dros y 40 mlynedd diwethaf.

