Mae nifer o bobl wedi’u siomi yn dilyn penderfyniad Cymwysterau Cymru i atal cyflwyno cymhwyster TGAU Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru. Un o’r rheini yw Martin Griffiths, Rheolwr Cymdeithas Fyddar Brydeinig, Cymru, a ddisgrifiodd y cyhoeddiad, “yn dipyn o ergyd i blant byddar a’u ffrindiau a chyd-ddisgyblion ar draws Cymru”.

‘Penderfyniad anodd’

Roedd cynlluniau i’r cymhwyster gael ei ddatblygu erbyn 2027, ond cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ar yr 2il o Hydref eu bod “wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal datblygiad y cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain”. Dywedodd y sefydliad fod hwn yn sgil “llawer o heriau ymarferol i’r sector addysg yn ei gyfanrwydd”.

Bellach, dywed Cymwysterau Cymru y bydd “unedau Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn ein cymhwyster Sgiliau am Oes newydd”, yn hytrach na datblygu cymhwyster yn benodol ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain. Maent yn hyderu y bydd hwn yn caniatáu nifer o ysgolion i ddarparu eu disgyblion gyda “sgiliau ymarferol ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol mewn lleoliadau bob dydd”.

Daeth y cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol, sôn am ddarpariaethau gan Lywodraeth Cymru i “hybu a hwyluso’r defnydd o BSL” yng Nghymru.

‘Deall y bydd siom’

Un sydd wedi’i siomi gan hyn yw Prif Weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, Susan Daniels. Dywedodd, “Dros ddegawd mae pobl ifanc byddar wedi bod yn ymgyrchu dros TGAU BSL. Mae darganfod bod Llywodraeth Cymru wedi mynd yn ôl ar eu gair ac na fydd TGAU BSL yng Nghymru bellach yn ddinistriol”. Ychwanegodd at ei rhwystredigaeth gan honni “Does dim amheuaeth eu bod yn haeddu gallu ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn ffurfiol yn eu hiaith eu hunain”, gan gyfeirio at bobl ifanc byddar.

Mewn ymateb i gyhoeddiad Cymwysterau Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “rydym yn deall y bydd siom ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru i atal datblygiad TGAU BSL. Fodd bynnag, rydym yn falch y byddant yn parhau i ddatblygu unedau BSL fel rhan o’r cymhwyster Cyfres Sgiliau newydd, a fydd ar gael o 2027”.

‘Mor benderfynol ag erioed’

Er y siom, mae Susan Daniels yn obeithiol y bydd cymhwyster ar gael yn y dyfodol. Dywedodd, “Rydym mor benderfynol ag erioed i wneud yn siŵr bod TGAU BSL yn dod yn realiti yng Nghymru ac rydym yn awyddus i weithio gyda Chymwysterau Cymru i oresgyn yr ‘heriau ymarferol’ maen nhw’n eu disgrifio”.

Mae Signature, y corff dyfarnu blaenllaw ar gyfer cymhwyster cyfathrebu ac iaith fyddar yn y DU, hefyd yn benderfynol o sicrhau bod cymhwyster yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol. Dywedodd Lindsay Foster, y Cyfarwyddwr Gweithredol, “Byddwn ni’n rhannu ein hymchwil gyda Chymwysterau Cymru ar y galw am TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain, yn ogystal â’r dystiolaeth o gyflenwad addysgu digonol yng Nghymru i’w lansio”.