Mae’r Llywodraeth Lafur yn sôn am wahardd trigolion dan 16 y Deyrnas Unedig rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y gwaharddiad hwn yn Awstralia. Er bod y gwaharddiad wedi sbarduno llawer o wrthwynebiad, yn bennaf gan unigolion dan 16, honna’r Llywodraeth y bydd y gwaharddiad yn fanteisiol iawn. Cafodd y gwaharddiad ei gyhoeddi ar y 10fed o Ragfyr yn Awstralia.

Mae’r gwaharddiad wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn wedi i gwmnïoedd fedru cau 4.7 miliwn o gyrifau gan sicrhau bod dim ffordd o gwmpas hyn. Er bod y gwaharddiad yn Awstralia wedi ysbrydoli’r Deyrnas Unedig, nid hwn oedd y sôn cyntaf am waharddiad i unigolion dan 16 y wlad. Mae aelodau seneddol y DU wedi cael eu boddi gyda gorchmynion gan rieni i wahardd y cyfryngau cymdeithasol ers misoedd gyda nifer yn gwreiddio o’r perygl i blant ar lein.

Soniodd y llywodraeth ym mhellach am hyn drwy gynnig byddai’r gwaharddiad yn lleihau’r effeithiau negyddol mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ar blant megis y nodweddion sy’n annog pobl i dreulio mwy o’u hamser ar lein a’r cynnwys amhriodol gall arwain at niwed i feddyliau plant. Yn sicr, gellir dilysu’r pwyntiau hyn drwy edrych ar y trafodaethau diweddar yn y Senedd am y cynnwys pornograffiaeth a’r “deepfakes” sy’n lledaenu ar draws yr ap X sydd ar gael i bawb (gwelir tudalen 16 am fwy!), er i’r llywodraeth wahardd ar gynnwys amhriodol i unigolion dan 18. Dywedir bod defnydd y cyfryngau cymdeithasol mewn pobl dan 16 bron yn gyffredinol gyda 96% o blant 12-16 oed yn y DU yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ac maent sicr wedi defnyddio efallai eu cyfle olaf am bach i leisio’u barn am y gwaharddiad.

Mae nifer o unigolion dan 16 wedi sôn am sut all y gwaharddiad greu colled mewn cysylltiad â hunaniaeth drwy ynysiaeth rhag y cyfryngau cymdeithasol. Er hyn, mae nifer o oedolion wedi canfod y gwrthwynebiad hwn yn annilys gan iddyn nhw fyw eu harddegau heb y cyfryngau cymdeithasol, a chynnig bod yr apiau fel messages, a phone dal i fod ar gael i bawb. Nid hyn oedd yr unig wrthwynebiad gan y trigolion dan 16, mae nifer wedi sôn am sut mae adnabod y risg o sgamiau ac yn y blaen yn hanfodol iddynt wrth gamu mewn i’r byd sy’n digideiddio mwy bob dydd, ac yn cynnig efallai byddai cyfyngiadau caletach ar gwmnïoedd cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol na gwaharddiad cyfan.

Mae’r gwaharddiad yn sicr yn mynd ar y trywydd cywir i gael ei gyflwyno ac er y bydd yn stopio unigolion dan 16 rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n debyg bod yna ffyrdd o gwmpas y gwaharddiad yma. Gyda ‘VPN’s’, gellir lleoli cysylltiad dy ffôn symudol i wlad arall sydd felly yn gwneud y gwaharddiad yn ddiwerth, heb sôn am gyfrifau ffug a defnyddio cyfrifau eraill. Beth ydych chi’n meddwl am y gwaharddiad hwn?

A hoffech chi gael eich holl gyfrifau cyfryngau cymdeithasol wedi eu gwahardd?