Yn dilyn cadarnhad gan Brifysgol Caerdydd ym mis Rhagfyr llynedd y byddai pob un o fflatiau Cymraeg Llys Senghennydd bellach mewn un bloc, mae’r myfyrwyr cyntaf wedi setlo yno.

Er fod Llys Senghennydd yn draddodiadol yn cael ei adnabod fel y cartref i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd; dydy’r neuadd yn y blynyddoedd a fu heb fod yn uniaith Gymraeg.

Wedi’i gwasgaru dros 3 bloc oedd y fflatiau ar gyfer myfyrwyr Llys Senghennydd oedd â’u bryd ar rannu llety gyda siaradwyr Cymraeg eraill. Golyga hynny fod y fflatiau gyda siaradwyr Cymraeg yn rhan o’r bloc oedd hefyd yn cynnwys siaradwyr ieithoedd eraill.

Fodd bynnag, eleni, am y tro cyntaf erioed yn hanes Llys Senghennydd, mae’r myfyrwyr a ddewisiodd llety Cymraeg yn y llys mewn un bloc. Mae hyn yn gwireddu breuddwyd nid yn unig y myfyrwyr ond Is-lywyddion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd wedi ymgyrchu yn gyson dros y blynyddoedd.

"Dyma gyfle euraidd i fyfyrwyr adeiladu cymuned ieithyddol Gymraeg o'r cychwyn cyntaf"

Owain Siôn yw Is-Lywydd y Gymraeg eleni ac mae’n hynnod o falch bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg wedi cael eu clywed, dywedodd:

“Wedi dros ddeugain mlynedd o ymgyrchu, mae’r Undeb Myfyrwyr ac UMCC yn falch iawn bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg wedi eu clywed a bod fflatiau iaith-Gymraeg Senghennydd bellach i gyd o dan yr un to.”

“Er yn gam gymharol fach tuag at gampws gwirioneddol ddwyieithog yng Nghaerdydd, dyma gyfle euraidd i fyfyrwyr adeiladu cymuned ieithyddol Gymraeg o’r cychwyn cyntaf - un fydd yn rhoi’r hyder iddynt fyw bywyd academaidd a chymdeithasol gwbl-Gymraeg trwy gydol eu hamser yn y brifysgol.”

“Yn wir, roedd hi’n siomedig clywed bod nifer wedi methu cael lle yn y fflatiau hyn, ond mae hyn yn atgyfnerthu ein pwynt bod cymuned Gymraeg fywiog i’w gael ym Mhrifysgol Caerdydd a bod cryn dipyn o waith dal i’w wneud.”

“Mi fyddwn ni nawr yn gweithio’n adeiladol gyda’r brifysgol i sicrhau eu bod yn barod i ymateb i’r galw cynyddol am lety Cymraeg fel y gwelwyd eleni, a bod creu lle ac awyrgylch i’r Gymraeg ffynnu wrth galon unrhyw gynlluniau i adnewyddu ac ail-siapio’r campws yn y dyfodol.”

Yn naturiol, mae hyn am arwain tuag at feithrin cymuned Gymreig glos i las-fyfyrwyr gan hwyluso’r brosoes o ymgartrefu yn y brifddinas ac mae sawl un yn gredinol o hyn yn barod.

"Mae wedi gwneud i mi deimlo'n gartrefol yn syth"

Merch sy’n dyst i hyn yw Elliw Siôn. Mae hi wedi dechrau ei thaith yn y brifysgol eleni ac wedi ymgartrefu yn Llys Senghennydd.

“Braf yw cael bod yng nghanol bwrlwm bloc Cymraeg Senghennydd gan ei fod yn le croesawgar a chyfeillgar. Mae wedi bod yn berffaith wrth i mi symud i’r ddinas a dilyn cwrs nad oes cymaint o Gymru Cymraeg yn ei ddilyn sef Cyfrifeg a Chyllid."

“Mor braf ydi hi i gael cyfle i gymysgu â Chymru o bob cwr o’r wlad a dod i adnabod pobl newydd yn y neuadd breswyl.” “Mae’r gymuned Gymraeg wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol yn syth sy’n deimlad arbennig iawn” meddai.

"Teimlad braf ydi cael defnyddio fy iaith gyntaf mewn lle dieithr"

Newydd gychwyn ei blwyddyn gyntaf mae Mei Madrun yn ogystal ac mae hithau hefyd yn preswylio yn Llys Senghennydd. Dywedodd Mei bod cael byw mewn bloc Cymraeg yn deimlad “arbennig” a’i bod hi’n “anodd credu nad yw hyn wedi bodoli’n y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth siarad â Gair Rhydd, dywedodd Mei, “mae’n sicr wedi fy helpu i ymgartrefu’n y ddinas gan ei bod hi’n fwy naturiol i mi siarad Cymraeg wrth ofyn cwestiynau a chyfathrebu’n gyffredinol. Teimlad braf ydi cael defnyddio fy iaith gyntaf mewn lle dieithr.

“Dwi’n meddwl y bydd hyn yn yn fuddiol ar gyfer cynnal yr iaith yn y ddinas gan ein galluogi i greu cymuned Gymreig cryfach wrth ymgynnull a threfnu digwyddiadau.”

Ar drothwy cyfnod cyffrous yn hanes y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae mawr obeithio y bydd hyn yn arwain tuag at hwyluso bywyd y myfyrwyr ynghŷd â sicrhau fod y Gymraeg yn ein cymuned yn mynd o nerth i nerth.

Mei Madrun sydd wedi ymgartrefu yn Llys Senghennydd.
Mei Madrun sydd wedi ymgartrefu yn Llys Senghennydd.Photograph: Mei Madrun