Jack Thomas – Blwyddyn 1, Cyfryngau a Chyfathrebu

Streiciau gan weithwyr y rheilffyrdd, streiciau gan weithwyr y GIG, a nawr streiciau gan weithwyr addysg! Mae’n teimlo fel petai pob un gweithiwr sydd â rôl allweddol yn y gymuned yn streicio ar hyn o bryd. Wrth gwrs, rwyf yn gwbl ddiolchgar am yr hyn maent yn gwneud, ac nid wyf yn rhoi’r bai arnynt am eiliad, achos yr unig beth maent yn gofyn am yw tegwch. Mae’r streiciau yn effeithio ar bawb ar hyn o bryd, ond rwyf yn cydnabod mai amcan streic yw achosi problemau bach er mwyn datrys un mawr. Er ei fod yn rhwystredigaeth, mae’n rhaid cofio pwysigrwydd yr arwyr yma yn ein cymuned, ac felly rwyf yn hapus dioddef yn y byr dymor er mwyn annog tegwch yn yr hir dymor, ond mae eisiau newid cyn hir.

Elin Angharad Huws – Blwyddyn 2, Cymraeg a Newyddiaduraeth

Rwyf o blaid y streiciau. Ydyn, maen nhw’n amhariad arall ar ein haddysg ac ein hamser yn y brifysgol, ar ben digwyddiadau’r blynyddoedd diweddar o ran COVID-19 ac ati, ond er hynny, rwy’n cytuno gydag achos y streiciau. Gyda fy rhieni’n darlithwyr, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y pwysau mae staff prifysgol o dan – oriau hir a thâl sydd wedi cwympo ers degawd. Heb os, mae’r holl streicio’n gwneud i mi boeni am asesiadau a’m haddysg yn gyffredinol, ond yn y pen draw, dyma’r unig opsiwn sydd gan y staff er mwyn ysgogi unrhyw newid yn eu sefyllfa.

Caitlin Griffiths – Blwyddyn 2, Newyddiaduraeth a Chyfathrebu

Dwi’n deall bod anghyfiawnderau yn y gweithle yn fater pwysig i aelodau’r Undeb Prifysgolion a Cholegau, ond mae’r nifer o streiciau sydd wedi’i chynllunio yn tarfu ar gymaint o addysg y tymor yma. Mae gymaint o bryder gennyf am effaith y gweithredu diwydiannol ar ddyfodol fy addysg Prifysgol. Dros y pythefnos diwethaf yn unig dwi’n teimlo mor tu ôl yn fy ngwaith, achos bod gymaint o ddarlithoedd neu seminarau wedi’i chanslo. Mae’n debyg i’r cyfnod clo ble oedd rhaid ceisio deall y gwaith o bwyntiau pŵer, sy’n anodd weithiau achos does dim syniad gen i am yr hyn maent yn trafod. Ond does dim byd allwn ni gwneud i ddatrys y broblem.