Penwythnos diwethaf (20fed-22ain o Hydref) cynhaliwyd gŵyl gerddorol Sŵn ar draws amryw o leoliadau gwahanol yng Nghaerdydd, gydag artistiaid enwog megis Parisa Fouladi, Sage Todz a Chroma yn rhan o’r arlwy. Roedd yn gyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i fwynhau rhai o oreuon y sîn roc Gymraeg yn perfformio’n fyw.

Crowd at a live music performance
Photograph: Llyr Eirug and Stephen Griffith via Flickr

Ond mae prisiau tocynnau’r ŵyl wedi arwain at ambell fyfyriwr o’r Brifysgol i beidio â mynychu. Gyda phrisiau yn amrywio o £30 i £80 teimlai rhai fod pris yr ŵyl yn ‘eithaf drud’ ac yn ‘anfforddiadwy’. Rhannodd dwy fyfyriwr o’r ail flwyddyn eu barn ar hyn.

Ym marn Lili Evans. Blwyddyn 2 ‘Rydw i a llawer o fy ffrindiau yn teimlo nad ydy’r tocynnau yn fforddiadwy i ni fel myfyrwyr, sy’n siom oherwydd mae’n bwysig i bobl ifanc fod yn rhan o ŵyl fel Sŵn. Yn fy marn i, buasai cynnig discount i fyfyrwyr/pobl ifanc yn annog mwy ohonom i fynychu’r ŵyl a chael blas ar gerddoriaeth o bob genre’.

Yn ôl Glain Llwyd. Blwyddyn 2 ‘Dwi’n credu bo nhw’n rhy ddrud, a ma cael opsiwn tocyn £30 fel yr opsiwn rhataf yn rhyfedd!. Yn fy marn i dyle fod rhywfath o bris myfyriwr, neu bris pobl ifanc yn cael ei gynnig. Credaf byddai hyn yn denu mwy o bobl ifanc i fynychu’r gigs’.

Sŵn festival logo projected onto a church at night
Photograph: Llyr Eirug and Stephen Griffith via Flickr

Cymharwyd lineup Sŵn gyda gŵyl arall sef gŵyl Tafwyl – gwyl arall sydd yn rhoi llwyfan i artistiaid Cymraeg yn y ddinas. Fodd bynnag, mae mynychu Tafwyl yn rhad ac am ddim tra bod angen talu hyd at £80 i fynychu Sŵn. Derbynnia Tafwyl fuddsoddiad ariannol i allu cynnig mynediad am ddim, ac fe nodir ar wefan Sŵn fod yr ŵyl yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, felly a yw hi’n bosib i Sŵn gynnig opsiwn rhatach i fyfyrwyr a phobl ifanc, tybed?

Gofynnwyd i Sŵn i ymateb i’r posibilrwydd o ostwng pris eu tocynnau mynediad i fyfyrwyr, ond ni dderbyniwyd ymateb ganddyn nhw.