Eleni yw’r flwyddyn waethaf ar gyfer recriwtio graddedigion. Yn 2025, gostyngodd recriwtio 8% i gymharu â llynedd, gan ei wneud y flwyddyn wannaf ers y gostyngiad o 12% yn ystod y pandemig yn 2020.
Graddiodd Elin Owen eleni o Brifysgol Caerdydd.
Dywedodd ei bod hi wedi bod yn chwilio am swyddi ers mis Ionawr, hyd yn oed rhai tu allan i’w maes dymunol.
Ar hyn o bryd mae hi’n aros i glywed i nôl wrth 27 o swyddi.
“Dwi ‘di trio am swyddi fel gweithio mewn siopau, ond maen nhw’n dweud bo fi’n gorgymwys, ond wedyn gyda swyddi yn y maes dwi ishe’i wneud, maen nhw’n dweud bod dim digon o brofiadau gen i. Felly does dim ffordd o ennill rwy’n teimlo.”
Yn ôl yr Arolwg Recriwtio Myfyrwyr 2025 gan Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE), o’r 155 o gyflogwyr mawr a gafodd eu mesur, derbyniwyd dros 1.8 miliwn o geisiadau ar gyfer y 31,000 o swyddi graddedigion.
Yn ogystal, mae cyflogwyr yn derbyn mwy o geisiadau i bob rôl, sy’n ei gwneud hi’n gystadleuaeth fwy llym i ymgeiswyr.
Er bod nifer y graddedigion a gyflogwyd wedi gostwng, cyflogwyd mwy o bobl sydd wedi gadael ysgol a choleg drwy brentisiaethau, gan weld cynnydd o 8%.
Mae hyn yn dangos fod cyflogwyr yn symud ffocws o raddedigion i brentisiaethau.
Ar y cyfan, gostyngodd y farchnad swyddi lefel mynediad 5%.
Ar y cyfan, gostyngodd y farchnad swyddi lefel mynediad 5%.
Pwysig yw nodi fod y patrymau yma yn amrywio o sector i sector.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos er bod 42% o gyflogwyr wedi lleihau cyflogi graddedigion, bod 25% o gyflogwyr wedi cynnal lefel cyflogi cyson, a bod 33% wedi cynyddu.
Defnydd deallusrwydd artiffisial “ddim yn deg”:
Erbyn hyn mae rhai cyflogwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn dewis eu hymgeiswyr llwyddiannus.
Mae hyn drwy uwcholeuo allweddeiriau mewn CV’s a llythyron cais, a dadansoddi cyfweliadau fideo.
Profiad Elin oedd: “Ma na un o’r swyddi siopau nes i drio am, ag oedd y cyfweliad yn hollol AI.
Nes i fynd arno fo ac roedd fideo o ddynes yn siarad gyda preset questions.
Roedd o’n gadael rhyw ddeg eiliad i chi feddwl am sut i ateb y cwestiwn a recordio.
“Dwi’n meddwl dyna le mae’r broblem yn dod i mewn. Dwi’n bersonol heb lawer o brofiad ‘retail’, ond os fyswn i’n cael cyfle i siarad efo nhw wyneb yn wyneb ella byswn i’n gallu dweud sut mae pethau dwi di neud o’r blaen yn gymwys i’r swydd yna, ond dwi ddim yn cael y cyfle os dwi dim ond yn cael deg eiliad i feddwl amdano’r peth cyn ateb y cwestiwn.
Dydy o ddim yn deg dwi’n i feddwl.”
Amcangyfrif disgyniad arall:
Er bod ISE yn canolbwyntio ar gyflogwyr mawr sydd â rhaglenni ffurfiol o hyfforddi graddedigion, mae data ehangach y farchnad lafur yn dangos gostyngiad o 13% yn yr holl hysbysebion swyddi rhwng Gorffennaf 2024, a Gorffennaf 2025.
Fe all hyn effeithio ar swyddi y tu hwnt i’r rolau hyfforddi ffurfiol i raddedigion.
Mae’r adroddiad ISE yn amcangyfrifo bydd recriwtio graddedigion yn parhau i fod yn sialens yn 2025-26, gyda disgyniad disgwyliedig o 7%.

