Ar benwythnos 21- 22ain o Hydref cynhaliodd yr Urdd gynhadledd genedlaethol ieuenctid benywaidd mwyaf Cymru, #FelMerch.
Yn ôl yr Urdd mae’n gyfle mae’n ‘darparu cyfleoedd i ferched a menywod i ddod ynghyd i gael eu hysbrydoli a’u ymbweru’. Roedd siaradwyr gwadd yno o’r maes chwaraeon, gan gynnwys Non Stanford MBE, Lowri Morgan a Gemma Grainger yn eu mysg.
Cafodd gweithdai eu rhedeg gyda’r bocsiwr Rosie Eccles, BBC Sport, Chwaraeon Cymru a llawer mwy.
Mae clwb tîm pêl-droed merched o dan 14 oed Rumney AFC wedi cael cyfle anhygoel yn ddiweddar gyda’r rapiwr Americanaidd fyd enwog, 50 Cent, bellach yn eu noddi.

Roedd Richi Brown sydd yn un o’r prif hyfforddwyr yn y clwb wedi cyflwyno cyfle unigryw i’r tîm.
Gweithiodd Richi Brown ar daith 50 Cent ac ofynnodd i’r rapiwr pe bai’n gallu’n noddi’r clwb.
Dywedodd yr hyfforddwr nad oedd yn disgwyl iddo gytuno o gwbl, ac wedi hynny roedd hyn yn sioc llwyr.
Roedd y rapiwr â phroffil uchel wedi noddi’r cit gemau oddi cartref.
Cytunodd i fynd amdani a chreu tracsiwt i’r merched hefyd.
Mae’r tîm i gyd yn gyffrous ac yn gobeithio bydd hyn yn helpu i hybu proffil y tîm a Chaerdydd ar lefel fyd eang.
Dywedodd Ellie Tromans sydd yn chwarae i dîm cyntaf rygbi y brifysgol “fel merch mae’n gallu bod yn anodd i gael fy noddi oherwydd llai o arian a phroffil sydd yn chwaraeon i ferched”.
Ychwanegodd hefyd buasai cael nodd gan berson enwog yn anhygoel.
