Gall cychwyn y brifysgol fod yn siwrnai emosiynol, unig a straenus ar adegau. Ond bydd fy ngair o gyngor yn sicrhau profiad bythgofiadwy i chi fel myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf.

Ffrindiau yw un o’r prif ffactorau ar gyfer cael bywyd pleserus yn y brifysgol, felly mae hi’n bwysig eich bod yn dod o hyd i’ch criw.

Mae gan Brifysgol Caerdydd dros 200 o gymdeithasau o bob lliw a llun sydd yn gweddu at ddiddordeb pawb. Gallwch ymuno drwy ymweld â gwefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd neu eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cofiwch, nid yw pwy yr ydych yn byw gydag yn y flwyddyn gyntaf yn diffinio eich cyfnod yn y brifysgol; mae hi’n bwysig cael ffrindiau tu hwnt i’ch fflat/tŷ ac eich cwrs er mwyn cael cydbwysedd iach.

Cadw meddwl iach yw’r flaenoriaeth ar gyfer myfyrwyr newydd. Mae hi’n allweddol cymryd egwyl. Peidiwch â theimlo o dan bwysau i fynd allan yn wythnosol, mae hi’n dderbyniol i gael noson fewn.

Blaenoriaethwch eich hunain dros ddigwyddiadau a phobl eraill. Peidiwch â bod ofn bod yn annibynnol, nid oes cywilydd i wneud gweithgareddau ar ben eich hunain. Mae hynny yn gwbl naturiol!

Trowch eich ystafell wely yn rhywle clyd, cartrefol a chynnes, er mwyn cael llecyn i ymdawelu ynddo. Rhowch luniau o’ch ffrindiau a’ch teulu neu addurniadau o’ch ‘stafell adref. Mae hyn yn gwneud byd o les, yn enwedig pan rydych yn hiraethu am adref.

Gan amlaf, arian yw’r poen meddwl mwyaf. Er bod gennych eich cyllid myfyriwr tymhorol, gall arian wrth gefn wneud byd o wahaniaeth. Gwnewch eich gwaith ymchwil - mae sawl sefydliad yn cynnig grantiau ar gyfer myfyrwyr megis cynghorau lleol, y Brifysgol, y Coleg Cymraeg a chymaint mwy.

Byddwch yn cael eich temtio’n aml i brynu ‘take-away’, neu ymweld â’r siop gornel, ond mae gwneud siop wythnosol yn Lidl neu Aldi, gyda bwyd maethlon yn fantais ariannol ac i gadw meddwl iach.

Gall adref deimlo’n bell iawn ar adegau, gan hiraethu am sgwrs yn y Gymraeg. Ymunwch â chymdeithasau Cymraeg yn y Brifysgol ac yng Nghaerdydd, fel y Gymdeithas Gymraeg (Gym- Gym), Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, Cymdeithas y Mynydd Bychan, neu ewch am noson allan gyda’ch ffrindiau ar nos Sadwrn yng Nghlwb Ifor Bach. Mae cymuned Gymreig y Brifysgol yn werth bod yn rhan ohoni, er mwyn gwneud ffrindiau o bob cwr o Gymru.

Cofiwch, nid chi yw’r unig un, mae hi’n gwbl normal i deimlo’n nerfus, hiraethu am adref neu deimlo’n ansicr o’ch profiad. Ond gwnewch y mwyaf, peidiwch â bod ofn, cymysgwch â phobl newydd a phwysicaf oll; MWYN- HEWCH!