Mae Cymru degawdau i ffwrdd wrth gydraddoldeb rhwng dynion a menywod - dyma mae adroddiad pum mlynedd elusen Chwarae Teg yn ei ddatgan. Cyhoeddwyd yr adroddiad, gweddol siomedig ei gasgliad, hwn ddechrau mis Chwefror eleni. Daeth y datganiad ar y sail bod bwlch cyflog rhwng dynion a menywod dal i fod 11.3%. Er bod ychydig o gynnydd mewn cyflogau i fenywod ers cyhoeddiad yr adroddiad cyntaf yn 2019, nid yw’r bwlch wedi lleihau rhyw lawer. Felly, gan ystyried bod y targed o waredu ar y bwlch cyflog rhwng rhywiau, anableddau ac ethnigrwydd erbyn 2050 yn agosáu, a yw menywod Cymru wir ddegawdau i ffwrdd wrth gydraddoldeb? Beth yw’r sefyllfa yma ym mhrifysgol Caerdydd? Mae elusen Chwarae Teg yn elusen Gymraeg sy’n cefnogi datblygiad economaidd menywod, ac yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau i ddatblygu arferion gwaith gwell. Yn ôl Natasha Davies, arweinydd polisi ac ymchwil yr elusen, fe fydd yn rhaid i fenywod Cymru aros degawdau am wir gydraddoldeb os yw’r cyflymdra cyfredol o weithio tuag ato yn parhau, ac aros am hyd yn oed yn fwy o amser bydd menywod anabl, menywod ar incwm isel neu o leiafrifoedd ethnig. Cynhyrchwyd yr adroddiad ‘Cyflwr y Genedl’ am y tro cyntaf yn 2019 er mwyn ei gwneud hi’n fwy hygyrch i ganfod ystadegau i asesu cynnydd cydraddoldeb yng Nghymru. Pum mlynedd yn ddiweddarach, mae’n “siomedig dros ben” i Natasha Davies fod y newid mor ymylol. Wedi darllen canfyddiadau siomedig yr adolygiad, bûm yna’n ystyried gweithredoedd a pholisïau’r brifysgol dros y frwydr tuag at lwyr gydraddoldeb. Yn 2021, y bwlch cyflog canolrifol rhwng menywod a dynion yn y brifysgol oedd 13.7%, felly’n amlwg mae cryn dipyn o waith yn y frwydr i gau’r bwlch yma erbyn 2050. Mae cymdeithas ffeminist Prifysgol Caerdydd yn rhan bwysig o’r frwydr hon yn y brifysgol: maent yn trefnu gweithgareddau i drafod profiadau myfyrwyr o bob rhywioldeb, ethnigrwydd a rhyw o’r batriarchaeth, yn ogystal â threfnu digwyddiadau hwylus i bob un sy’n credu mewn cydraddoldeb i fenywod eu mwynhau. Felly’n amlwg mae’r myfyrwyr am frwydro dros gydraddoldeb, a rhan fawr o hyn yw ystyried hyder menywod i fyw yn y ddinas. Ond, beth mae’r brifysgol yn ei wneud i sicrhau ein diogelwch? Dywedodd Natasha Davies ein bod ni’n parhau i wneud cynnydd annigonol yn y broses o frwydro trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol. Fel un o’u camau i sicrhau diogelwch myfyrwyr, mae’r brifysgol yn ein hannog i lawrlwytho ap SafeZone lle mae modd rhannu’n lleoliad wrth gerdded yn y ddinas, a gofyn am gymorth os mewn perygl. A yw hyn yn ddigon? Oes digon o drafodaeth yn y brifysgol ynglŷn â’r mater difrifol o anghydraddoldeb, o ofn cyson menywod wrth gerdded trwy’r ddinas? A yw’r brifysgol ond yn ymateb pan fo’r materion yn cyrraedd y wasg, er enghraifft pan fu sylw arbennig ar y broblem o sbeicio yn hydref 2021? Fel y dywedodd Natasha Davies, mae’n rhaid i “eiriau cysurus droi’n weithredoedd, gyda brys cynyddol”.